Profiad Gwaith a Recriwtio Agored

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:08, 9 Chwefror 2022

Mae'r Comisiwn yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ac unrhyw un arall a hoffai fod yn rhan o'r gweithle ac ymgyfarwyddo â gweithgareddau'r Senedd drwy amrywiaeth o gyfleoedd am brofiad gwaith tymor byr. Mae'r Comisiwn yn gweithredu cynllun profiad gwaith ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ac mae hynny yn gyfle i unrhyw un dros 16 oed i ymgysylltu â gwaith y Senedd. Caiff cyfleoedd recriwtio i swyddi sefydlog yn y Comisiwn eu hysbysebu ar ystod eang o blatfformau a'u hyrwyddo yn unol ag egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored.