Profiad Gwaith a Recriwtio Agored

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:09, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r rheini'n gwestiynau diddorol iawn. Down yma i'r lle hwn o bob rhan o Gymru, ond mae o lle y daw'r staff sy'n gwasanaethu'r Comisiwn a staff ein pleidiau gwleidyddol hefyd yn gwestiwn da i wybod yr ateb iddo. Nid wyf yn gwybod yr ateb iddo wrth imi sefyll yma yr eiliad hon, ac rwy'n tybio ein bod yn casglu rhai o'r ystadegau hynny, ond yn sicr, fe wnaf ymchwilio iddo a gofyn am rywfaint o eglurder ynghylch hynny i'w rannu gyda'r holl Aelodau. Rwy'n tybio bod diddordeb o bob cwr o'r Siambr mewn gwybod a ydym yn gwneud hynny, a sut.