Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 9 Chwefror 2022.
Rwyf wedi cefnogi rheolaethau rhent ers tro ac rwy’n cefnogi unrhyw gam i fynd i’r afael â’r tlodi a achosir gan godiadau rhent afresymol. Bu'n argyfwng ar farchnad dai'r DU ers degawdau. Mae sylfeini'r system wedi'u torri. Mae’r syniad y dylai fod hawl gan bawb i do uwch eu pennau, fel cymaint o feysydd eraill yn ein heconomi, bellach yn ddarostyngedig i fympwyon grymoedd y farchnad a'r dyhead i wneud elw.
Pan ddaeth Margaret Thatcher i rym, diddymodd ei Llywodraeth gyllid i gynghorau adeiladu tai economaidd gynhyrchiol, gan ddewis cefnogi rhenti a morgeisi yn lle hynny. Ymwthiodd dogma’r farchnad ymhellach i bolisi tai’r DU drwy bolisi trychinebus yr hawl i brynu. Ni ddarparwyd tai yn lle'r rhan fwyaf o'r tai a werthwyd o dan y polisi hwn. Roedd yn enghraifft o werthu asedau'r wladwriaeth i'r sector preifat ar raddfa enfawr. Dinistriodd ddegawdau o gytundeb gwleidyddol prif ffrwd ar yr angen i gynghorau ddarparu tai cymdeithasol.
Gan ddechrau gyda Llywodraeth Lafur Clement Attlee, darparodd y wladwriaeth gyllid i gynghorau fuddsoddi mewn cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol, ac am ddegawdau, câi cannoedd o filoedd o dai rhent cymdeithasol, ar gyfartaledd, eu hadeiladu bob blwyddyn. Yn economaidd, roedd y cyfiawnhad yn amlwg, gan fod adeiladu tai ar raddfa fawr yn golygu bod prisiau tai a rhenti yn parhau i fod yn fforddiadwy oherwydd bod y cyflenwad yn fawr. Pan ystyrir tai fel buddsoddiad ariannol, y gwrthwyneb sy'n wir. Mae pwysau i gyfyngu ar y cyflenwad er mwyn codi prisiau, gan gynyddu elw'r rheini sy'n berchen ar yr asedau. Lle y caiff tai eu hadeiladu, bellach caiff ei adael i raddau helaeth i ddatblygwyr eiddo preifat, a'u prif gymhelliant hwy yw gwneud elw i'w cyfranddalwyr.
Mae twf cyflym ac anghynaliadwy dosbarth o landlordiaid prynu-i-osod ers y 1980au nid yn unig wedi dadwneud llawer o’r cynnydd a wnaed i amodau tenantiaid ond hefyd mae wedi arwain at beri i brisiau tai godi i'r entrychion. Mae'r prisiau uwch ynghyd â'r cyflenwad isel yn arwain at renti cynyddol. Mae rheolaethau rhent yn cynnig un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gennym i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Nid ydynt yn ddigynsail, maent yn weddol gyffredin ledled Ewrop. Yn 2016, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban y pŵer i osod rheolaethau ar renti, ac yng Nghymru, mae'n rhaid inni ddysgu gwersi am fethiannau dull gweithredu’r Alban, a achoswyd gan ofnusrwydd siomedig a diffyg uchelgais. Yn gyntaf ac yn bennaf, nod rheolaethau rhent ddylai fod i amddiffyn tenantiaid. Fel nod mwy hirdymor, dylent atal landlordiaid prynu-i-osod rhag cronni eiddo a chynyddu’r nifer ohonynt sy’n dymuno gwerthu. Bydd hyn yn darparu cynnydd yn y cyflenwad, gan ganiatáu i denantiaid brynu eu tai eu hunain. Bydd ehangu tai cymdeithasol yn barhaus gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau cartrefi i’r rheini nad ydynt yn dymuno prynu neu sy’n dal i fod yn methu gwneud hynny, ac edrychaf ymlaen at y Papur Gwyn, ac rwy’n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu rheolaethau rhent, fel yr addawyd yn y maniffesto. Pobl ifanc a'r dosbarth gweithiol sy'n teimlo effeithiau'r argyfwng tai yn fwyaf difrifol. Os na weithredwn, byddwn yn condemnio ieuenctid yfory i ddyfodol heb sicrwydd tai. Diolch.