6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) — Rheolaethau rhent

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:52, 9 Chwefror 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb cynhwysfawr.

Dwi'n ymddiddori, mae'n rhaid dweud, efo ymatebion y Ceidwadwyr. Dwi'n meddwl weithiau hwyrach eu bod nhw wedi ysgrifennu rhyw araith ymlaen llaw a ddim cymryd dim sylw o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd tra bo rhywun yn cydnabod—mae'r Gweinidog ei hun yma wedi cydnabod—fod yna wendidau efo rheolaethau rhent, ac rydw innau wedi dweud hynny, mewn rhai achosion, mae yna enghreifftiau ohono fo yn llwyddo, ac enghreifftiau amlwg iawn hefyd.

Ac rydyn ni'n gwybod, er mwyn i reolaethau rhent lwyddo, fod yn rhaid iddyn nhw gael eu cyplysu a'u priodi efo ystod o bolisïau eraill; nid y lleiaf ohonyn nhw ydy adeiladu, adeiladu ac adeiladu, fel mae Mike Hedges wedi'i ddweud hefyd. Ond, wrth sôn am adeiladu, mae'n rhaid inni dderbyn na fyddai eich cyfeillion chi yn y Ceidwadwyr sydd yn y sector breifat adeiladu yn ateb y galw oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn creu proffid ac elw yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod tai cyhoeddus yn cael eu hadeiladu unwaith eto, gan rymuso'n hawdurdodau lleol i'w galluogi nhw i ailadeiladu tai cyngor eto er mwyn ateb y galw, oherwydd bod y diffyg stoc ar hyn o bryd yn golygu bod rhai o'r landlordiaid rogue yna, sydd eisiau manteisio ar bobl, eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw'n medru cynyddu rhent yn gyson, yn gyson ac yn gyson. Amdani, James.