Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. I rai pobl yng Nghymru, maent yn poeni y byddant yn marw heb gael y driniaeth canser sydd ei hangen arnynt, a dyna farn bwrdd y cynghorau iechyd cymuned ac Andy Glyde o Cancer Research UK. Mae’r ddadl heddiw, wrth gwrs, yn hynod bwysig i lawer o bobl ledled Cymru, ac mae ein cynnig yn galw am nifer o fesurau, megis cymorth i gleifion canser drwy eu triniaeth, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi neu gemotherapi. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, a chyhoeddi strategaeth ganser lawn a fydd yn nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf.
Mae amseroedd triniaeth canser presennol yn awgrymu nad yw gwasanaethau canser Cymru yn dal i fyny â diagnosis a thriniaeth. Fis Tachwedd diwethaf, 58 y cant yn unig o gleifion a gafodd ddiagnosis newydd o ganser a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r diwrnod yr amheuir gyntaf fod ganddynt ganser, ymhell islaw'r targed o 75 y cant. Yn y cyfamser, mae’r rhestrau aros canser yng Nghymru yn parhau i godi, gyda bron i un o bob tri llwybr cleifion yn cymryd dros flwyddyn i’w drin, tra bo cyfarwyddwr clinigol canser cenedlaethol Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid i wasanaethau weithio ar 120 y cant i 130 y cant o'u capasiti blaenorol i ymdrin â'r niferoedd cynyddol o gleifion.
Mae cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer. Cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â’r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a’r isaf ond un ar gyfer tri math o ganser, ledled y DU. Felly, er bod y pandemig, wrth gwrs, wedi rhoi mwy o straen ar y system—mae hynny'n ddealladwy, wrth gwrs—byddwn yn awgrymu bod y system eisoes wedi torri cyn y pandemig.
Mae pob rhan arall o’r DU wedi ymrwymo i roi strategaeth ganser gadarn ar waith, ac mae’n drist gweld, cyn bo hir, mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser ddiffiniol. Mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â tswnami o achosion canser y methwyd gwneud diagnosis ohonynt ac ymddangosiad canserau ar gamau diweddarach o ganlyniad uniongyrchol, wrth gwrs, i ohirio gwasanaethau’r GIG yn ystod y cyfyngiadau symud. Ac yn ychwanegol at hyn, mae gennym bum mlynedd—neu flynyddoedd lawer—o brinder staff cronig.
Nawr, ymddengys bod y Llywodraeth yn meddwl mai strategaeth yw eu datganiad ansawdd ar gyfer canser. Wel, cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond mae'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau ar y diwedd os wyf wedi dadansoddi hynny'n gywir, ond mae elusennau canser yn dweud eu hunain fod diffyg manylder ac uchelgais yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser ac nad yw'n strategaeth genedlaethol. Mae angen strategaeth ganser ar Gymru. Yn anffodus, mae'r gweithlu canser hefyd yn broblem yng Nghymru. Dylai gweithlu canser arbenigol sy’n gallu ymdopi â’r galw ac ôl-groniad cynyddol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn atal cyfraddau goroesi canser rhag gwaethygu ymhellach. Mae Cymru'n brin o arbenigwyr canser eisoes—rydym yn ymwybodol o hynny, yn anffodus—gyda bylchau sylweddol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a hynny yn ôl llawer o bobl, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Radiolegwyr. Yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon dybryd hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diweddaraf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. Mewn gwirionedd, nid yw strategaeth ar y cyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a gofal cymdeithasol ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Yn lle hynny, mae gan y strategaeth nodau cyffredinol, gan gynnwys—rwy'n dyfynnu yma—cael gweithlu
'mewn niferoedd digonol i allu darparu gofal iechyd a chymdeithasol ymatebol sy’n diwallu anghenion pobl Cymru'.
Wel, dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu a strategaeth ganser lawn sy’n cynnwys targedau penodol, yn ogystal â chymorth i gleifion canser drwy gydol eu triniaeth i leddfu'r sgil-effeithiau anodd y mae triniaeth ar gyfer canser yn aml yn eu hachosi.
O ystyried pa mor gyffredin yw canser, mae pobl Cymru yn mynnu ac yn haeddu triniaethau sy’n diwallu eu hanghenion ac yn bwysicaf oll, triniaethau sydd gyfuwch â pherfformiad gwasanaethau mewn mannau eraill yn y DU. Felly, carwn annog Llywodraeth Cymru heddiw i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw’r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser, i gyhoeddi strategaeth ganser lawn sy’n nodi sut y bydd Cymru yn mynd i’r afael â chanser dros y pum mlynedd nesaf, ac i gefnogi cleifion canser drwy eu triniaethau, er enghraifft, drwy gyflwyno gofal deintyddol am ddim yn ystod radiotherapi a chemotherapi.
Rwy'n gobeithio y bydd ein dadl y prynhawn yma'n ddadl synhwyrol. Mae’n ddadl deilwng iawn i’w chael y prynhawn yma yn fy marn i, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniadau cadarnhaol gan Aelodau eraill, ac rwy’n mawr obeithio y cawn gyfraniad cadarnhaol gan y Gweinidog wrth iddi gloi ar ddiwedd y ddadl. Carwn annog yr Aelodau, wrth gwrs, i gefnogi ein galwadau a’n cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.