Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon am wasanaethau a chanlyniadau canser. Gallaf ddweud wrthych fy mod wedi gwrando'n ofalus iawn ar bopeth sydd wedi'i ddweud a byddaf yn ystyried eich sylwadau ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r hyn y buoch yn sôn amdano y prynhawn yma. Mae gennyf ofn na fyddaf yn gallu cefnogi'r penderfyniad am nifer o resymau, a hoffwn esbonio pam. Ond rwy'n cydnabod bod angen inni wneud yn well ar ganser. Mae'n fater o fywyd a marwolaeth go iawn. Rwy'n derbyn bod yn rhaid i'r datganiad ansawdd fod yn ddechrau'r stori, nid diwedd y stori, ac yn sicr mae llawer mwy o waith i'w wneud yn y gofod hwn.
Un o'r problemau gyda'r cynnig yw ei fod yn cyfuno amseroedd aros cyffredinol ag amseroedd aros canser. Mae'r amser aros ar gyfer gofal dewisol arferol yn wahanol iawn i'r llwybr canser 62 diwrnod. Mae cleifion canser bob amser wedi cael eu trin â brys clinigol yng Nghymru. Dynodwyd canser yn wasanaeth hanfodol ar ddechrau'r pandemig, a lle bynnag y bo modd, rydym wedi cynnal ac wedi blaenoriaethu gwasanaethau canser drwy gydol yr amser. Mae hyn wedi arwain at lwybrau newydd a gweld cleifion mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai o'r gwersi hynny'n wirioneddol gadarnhaol ac mae angen inni eu hymgorffori.
Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu mai strategaeth canser yw'r unig ffordd o wella canlyniadau canser ac mae'n honni bod Cymru'n allanolyn ar draws y DU. Ond mae gennyf ofn nad yw hynny'n wir. Ar hyn o bryd, mae Lloegr yn cynnwys canser yn ei chynllun hirdymor, nid oes gan Ogledd Iwerddon strategaeth, ac roedd strategaeth yr Alban yn rhagflaenu'r pandemig. Er mwyn gwella gwasanaethau canser, mae'n amlwg y bydd yn rhaid inni ddarparu mwy o driniaeth canser nag a wnaethom yn hanesyddol, ond yr anhawster yw ein bod yn dal ynghanol pandemig lle y mae cynhyrchiant wedi ei leihau gan fesurau rheoli heintiau a chan staff yn gorfod ynysu.
Er hynny, nid wyf am ddiystyru'r pryder y mae pawb ohonom yn ei deimlo am y modd y mae'r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau canser. Rwyf wedi dweud droeon pa mor bryderus rwyf i am yr effaith ar wasanaethau canser. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno ein dull newydd o ymdrin â gwasanaethau canser yn ystod y pandemig. Dyna pam mai canser oedd yr unig glefyd a gafodd ei glustnodi yng nghynllun adfer mis Mawrth 2021. Dyna pam rwy'n gwneud gwella gwasanaethau canser yn ffocws allweddol i gynlluniau byrddau iechyd. Dyna pam rwy'n buddsoddi mewn gweithgarwch adfer, offer newydd, hyfforddi mwy o glinigwyr canser a chyfleusterau newydd ledled Cymru. Fy mwriad yw cyhoeddi cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio ym mis Ebrill, a bydd hwnnw, wrth gwrs, yn cynnwys ystod o gamau gweithredu a mesurau a fydd yn cefnogi cleifion canser.
Gwelwyd llawer o feirniadu ar y cysyniad o ddatganiad ansawdd ar gyfer canser, ond hoffwn atgoffa'r Aelodau fod ein bwriad i gyhoeddi cyfres o ddatganiadau ansawdd wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach'. Dyna oedd yr ymateb i'r adolygiad seneddol. Dywedai y byddai datganiadau ansawdd yn disgrifio'r canlyniadau a'r safonau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.