7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:27, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Ond Weinidog, nid fi a'r gwrthbleidiau eraill yn unig sy'n galw am gynllun canser. Rwy'n deall y manylion a grybwyllwyd gennych—na ellir cynnwys hyn i gyd mewn cynllun—ond rydych chi hefyd yn dweud bod yr 20 elusen sydd wedi awgrymu y dylid cael cynllun canser yn anghywir hefyd ac wedi camddeall y dull o weithredu. Rwy'n ceisio deall y gwrthwynebiad i gael cynllun trosfwaol yma.