Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch. Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu nodiadau. Diolch i bawb am eu cyfraniad ac i'r Gweinidog am ei hymateb. Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod wedi gwrando'n ofalus iawn, ac yn gwneud llawer o waith gan ei fod i gyd yn gymhleth iawn, ond fel y nododd Russell George, nid oes unrhyw dargedu, dim gweledigaeth. Mae 20 o elusennau arbenigol hefyd yn galw am strategaeth canser. O leiaf fe dderbyniodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae llawer mwy y gallwn ei wneud.'
Ar ôl gwrando ar y Gweinidog, rhaid imi ddweud ei bod yn warthus eu bod yn ceisio dileu cynnig yn galw arnynt i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw'r gweithlu ar frys ar gyfer arbenigwyr canser a chyhoeddi strategaeth ganser lawn, yn nodi sut y bydd Cymru'n mynd i'r afael â chanser dros bum mlynedd. Yn hytrach, maent yn cynnig datganiad ansawdd ar gyfer canser sy'n brin o fanylion, ac sydd ond yn gosod safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau canser gan osgoi monitro ac atebolrwydd mesuradwy. Mae hefyd yn osgoi dealltwriaeth y cyhoedd. Mae'r cyhoedd yn deall geiriau fel 'strategaeth', ond nid oes neb yn deall beth yw 'datganiad ansawdd', oni bai eich bod yn perthyn i'r haenau uchaf yn y maes rheoli adnoddau dynol neu'n gosod nodau corfforaethol ar gyfer eu cyhoeddi ar flaen eich cyfrifon blynyddol ac adroddiadau i'ch cyfranddalwyr. Nid yw'n derm sy'n hygyrch i'r bobl rydym yn ceisio eu helpu.
Fel y clywsom, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth canser—cyn bo hir, Weinidog. Mae'r cyhoedd yn deall strategaeth, ond fel y dywedais, mae datganiad ansawdd yn ffordd o osgoi atebolrwydd i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny. Er gwaethaf y cynnydd a wnaed yn y misoedd diwethaf, mae targedau Llywodraeth Cymru yn parhau heb eu cyrraedd ac mae rhestrau aros yn parhau i godi. Hyd yn oed cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros ar gyfer canser wedi'u cyrraedd ers 2008 ac roedd pedair gwaith y nifer o bobl yn aros dros flwyddyn am driniaeth yng Nghymru nag yn Lloegr gyfan. Hyd yn oed cyn y pandemig, dangosodd data uned gwybodaeth canser Cymru mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe math o ganser, a'r ail isaf ar gyfer tri math, yn y DU.
Y mis diwethaf, chynheliais gyfarfod ymwybyddiaeth o ganser yr ofari Cymru ar-lein, digwyddiad a drefnwyd gan Target Ovarian Cancer a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, lle y clywsom, cyn y pandemig, mai dim ond 37 y cant o fenywod â chanser yr ofari yng Nghymru a gafodd ddiagnosis cynnar. Ac rwy'n cydnabod ac yn diolch i'r Gweinidog am y llythyr a gefais ganddi heddiw ynglŷn â hynny. Ac ydy, mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o'r cyflwr wedi gostwng, ond mae'n dal i fod yn warthus mai dim ond ar gam diweddarach y cafodd 63 y cant o fenywod ddiagnosis, gan leihau eu gobaith o oroesi.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Cymorth Canser Macmillan. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y cynnydd mewn ceisiadau am fudd-daliadau gan bobl sydd â salwch terfynol, gan adlewyrchu'r cynnydd mewn diagnosis ar gam diweddarach yn ystod y pandemig a'r twf a ragwelir yn y galw yn y dyfodol. Trafodwyd yr angen i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser gynnwys cerrig milltir a gwasanaethau cymunedol.
Bythefnos yn ôl, cyfarfûm â Prostate Cancer UK. Roedd ein trafodaeth yn cynnwys y nifer o gategorïau risg o ganser y prostad cam cynnar na wnaed diagnosis ohono ers y pandemig. Rwy'n croesawu'r newyddion eu bod yn lansio ymgyrch godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad gyda'r GIG ar 17 Chwefror, wedi'i hanelu at ddynion yn y grwpiau risg uchaf.
Dywed Cancer Research Cymru fod Cymru, hyd yn oed cyn yr argyfwng presennol, wedi perfformio'n wael ar lawer o fesurau'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a goroesi canser, gan ychwanegu bod effaith y pandemig ar wasanaethau canser, yn enwedig ei weithlu, yn peri pryder. Ac mae'r Tasglu Canserau Llai Goroesadwy yn parhau i godi proffil y chwe math o ganser llai goroesadwy, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol diagnosis cynnar er mwyn gwella'r gobaith o oroesi.
Wrth agor y ddadl heddiw, dywedodd Russell George nad yw'r amseroedd triniaeth canser presennol yn dal i fyny, fod cyfraddau goroesi canser Cymru wedi bod yn arafu ers blynyddoedd lawer, a bod y system wedi torri hyd yn oed cyn y pandemig. Cyfeiriodd at y blynyddoedd o brinder staff cronig a phrinder arbenigwyr canser, ac anogodd Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun recriwtio a chadw gweithlu llawn ar gyfer arbenigwyr canser a strategaeth ganser lawn.
Cynigiodd Rhun ap Iorwerth welliant Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gwblhau'r gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig amlddisgyblaethol ledled Cymru fel mater o flaenoriaeth, rhywbeth rydym ni'n ei gefnogi'n llawn gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs. Cyfeiriodd at absenoldeb amlwg strategaeth ganser genedlaethol a thynnodd sylw at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na'r rhai yn y gwledydd eraill ym Mhrydain a gwledydd eraill ledled Ewrop. Maent yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth Lafur—ac fe wnawn ninnau hynny hefyd wrth gwrs. Ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wrando yn hytrach ar y dros 20 o elusennau sy'n ffurfio Cynghrair Canser Cymru, fel y gwnaeth Russell George mewn ymateb i'r Gweinidog ar y diwedd. Nid gwirfoddolwyr hapus yw'r rhain neu deuluoedd mewn profedigaeth; arbenigwyr ydynt. Dyma'r bobl sydd â'r wybodaeth dechnegol, yr arbenigedd a'r wybodaeth rheng flaen i allu helpu'r Llywodraeth i wneud pethau yn y ffordd gywir, a rhaid gwrando arnynt.
Cyfeiriodd Laura Anne Jones at y 19,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sydd, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser. Dywedodd fod cyfraddau goroesi yng Nghymru wedi gwella, ond eu bod yn dal i fod yn llawer is na chyfartaledd y DU, a bod angen gweithredu pendant a phenderfynol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn y dyfodol, gyda strategaeth ganser gynhwysfawr ochr yn ochr ag agenda ataliol. Nododd Gareth Davies fod diagnosis cynnar yn allweddol i allu goroesi, ond rhagwelir y bydd y gweithlu canser arbenigol yn lleihau mewn gwirionedd. Soniodd am yr angen i fynd i'r afael â phrinder staff hanesyddol mewn diagnosteg ac oncoleg glinigol, a dywedodd ei bod yn bryd cael strategaeth ganser uchelgeisiol a chynllun gweithlu i ddileu marwolaethau diangen y gellir eu hosgoi. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod miloedd yn cael cam o dan Lywodraeth Lafur Cymru ac nad yw hyn yn rhywbeth sydd newydd godi ei ben iddynt. Galwodd am lenwi'r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd deintyddol cleifion canser hefyd.
Wel, hyd yn oed cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU gyda'i chyfraddau goroesi canser. Fel y clywsom gan lawer o siaradwyr, o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs, nid y DU yn unig ydyw; rydym yn llusgo ar ôl llawer o'n partneriaid rhyngwladol hefyd. Nawr, mae gwasanaethau canser Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r tswnami—ac rydym wedi clywed y gair hwnnw droeon—o ganser y methwyd gwneud diagnosis ohono ac ymddangosiad canserau ar gam diweddarach. Pan ychwanegir hyn at flynyddoedd o brinder staff cronig, mae'n hawdd deall pam y mae elusennau canser yn dweud nad yw'r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn ddigon manwl ac uchelgeisiol. Nid yw'n strategaeth genedlaethol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig yn unol â hynny. Diolch.