13. Dadl: Setliad yr Heddlu 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 6:14, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gweinidog, ac rwy'n croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i gefnogi Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol. Ond a ydych chi'n cytuno â mi ei bod braidd yn ormod i feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig honni nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon, pan ddaeth y Prif Weinidog Johnson i Lannau Dyfrdwy yn 2019 ac addo 96 o swyddogion ychwanegol ar gyfer Glannau Dyfrdwy, ac nid ydym ni wedi cael dim un?