Teyrngedau i Aled Roberts

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:35, 15 Chwefror 2022

Diolch, Lywydd. Wel, fe ddaeth y newyddion echrydus o drist am golli Aled fel sioc aruthrol, wrth gwrs, i nifer ohonom ni. Roeddwn i yn ymwybodol nad oedd e wedi mwynhau'r iechyd gorau yn y flwyddyn ddiwethaf, ond pan dorrodd y newyddion ddoe, fe'n siglwyd ni i gyd gan golli gŵr a oedd yn berson didwyll, cynnes, ffraeth ac angerddol iawn. Ond angerdd addfwyn oedd yn perthyn i Aled—rhywun a oedd yn wastad yn barod i weithio ar draws ffiniau plaid er budd ei gymuned a'i genedl. Ac roedd hynny'n amlwg, wrth gwrs, o'i ddyddiau fe fel arweinydd cyngor Wrecsam, pan oedd ei ddrws e'n wastad ar agor i bawb. Ac, wrth gwrs, fe roddodd e arweiniad clir o ran y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gan agor ysgolion Cymraeg newydd yn y sir a sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r cyngor yn y cyfnod hwnnw. Ac roedd cael y cyfle i gario hynny ymlaen ar lefel genedlaethol, yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, yn rhywbeth dwi'n gwybod roedd Aled yn falch iawn ohono fe.

Mi ges i'r fraint, fel nifer ohonom ni yn y Senedd yma, i weithio'n agos iawn ag e yn y bedwaredd Senedd—y ddau ohonom ni'n cael ein hethol ar yr un diwrnod, wrth gwrs, yn 2011, a'r ddau ohonom ni'n cynrychioli rhanbarth y Gogledd. Ac fe dreulion ni oriau'n rhoi'r byd yn ei le ar y siwrneiau trên hir yna o Wrecsam i Gaerdydd ac yn ôl, a'r sgyrsiau'n amrywio o drafod manylder deddfwriaeth seneddol i berfformiad clwb pêl-droed Wrecsam ar y penwythnos. Wrth gwrs, roedd e yn gefnogwr brwd o'i glwb pêl-droed lleol, ond yn gefnogwr brwd o'i gymuned yn ehangach. Roedd e'n gadeirydd y Stiwt, wrth gwrs, yn Rhos—adeilad y gwnaeth e chwarae rhan ganolog yn ei ailagor e. Roedd e'n canu mewn corau lleol, yn organydd yn ei gapel lleol, yn llywodraethwr ar ysgolion. Dyn ei filltir sgwâr go iawn.

Felly, mae colli Aled yn ergyd drom mewn sawl ffordd, ac, wrth gwrs, mae'n meddyliau ni gyda Llinos a'r hogiau a'i deulu cyfan ar yr adeg anodd yma. Dwi a phawb ym Mhlaid Cymru am estyn ein cydymdeimlad â nhw. Ond dwi hefyd eisiau estyn ein diolch—diolch am yr holl waith wnaeth e, a diolch ei fod e wedi gallu cyflawni cymaint mewn oes a dorrwyd yn llawer iawn rhy fyr.