Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Chwefror 2022.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu ymrwymiad eich Llywodraeth i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni sicrhau ansawdd yn ogystal â niferoedd. Mae'n hanfodol bod y prentisiaethau hyn yn hwyluso'r broses o drosglwyddo gweithwyr iau o'r ysgol i'r gwaith ac yn cefnogi'r broses o drosglwyddo gweithwyr presennol i swyddi uwch medrus iawn. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i bennu cyfres o nodau eglur ar gyfer eich rhaglen brentisiaethau fel y gellir mesur cynnydd i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cyflogwyr a hyfforddeion, ac yn darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen ar economi Cymru heddiw ac yn y dyfodol hefyd? Diolch.