Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Chwefror 2022.
Mae'n ddiddorol eich bod chi'n dweud hynna, Prif Weinidog, am lunio'r pecynnau, oherwydd yn 2020, dywedodd Britishvolt eu bod nhw eisiau sefydlu gigaffatri celloedd batri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, gan greu 3,000 o swyddi a 4,000 o swyddi cysylltiedig—cyfanswm o 7,000 o swyddi, yr ail brosiect buddsoddi diwydiannol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n werth ei ailadrodd: yr ail brosiect diwydiannol mwyaf yn hanes y DU. Dyma'r union fath o brosiect y dylem ni fod yn ceisio ei ddenu yma yng Nghymru a sicrhau ei sylfeini yma yng Nghymru. Mae Britishvolt wedi sicrhau cefnogaeth ariannol a bydd yn agor ei gigaffatri yn Northumberland. Mae'n ymddangos bod y prosiect wedi llithro drwy eich bysedd. Beth aeth o'i le, Prif Weinidog?