Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i anfon fy nymuniadau gorau atoch chi? Mae'n dda eich gweld chi yn edrych yn dda a gobeithio y byddwch chi'n dod allan o'ch caethiwed cyn gynted â phosibl. Mae'n dda eich gweld chi ar y sgrin heddiw yn edrych mor dda.
Prif Weinidog, mae mewnfuddsoddiad yn mynd i fod yn hanfodol i adeiladu economi gref a gwydn ar ôl COVID. Beth sydd gan Lywodraeth Cymru o ran cynlluniau i ddenu cyfran fwy o fewnfuddsoddiad i'r Deyrnas Unedig?