Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at ddau fater y mae llawer ohonom ni wedi cael sylwadau arnyn nhw gan ein hetholwyr ein hunain. Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr a chlywodd hi eich cwestiwn chi a bydd hi'n cyflwyno rhagor o wybodaeth, naill ai ar ffurf datganiad ysgrifenedig neu'n ysgrifennu at yr Aelod, ac rwy'n siŵr y bydd llythyr yn cael ei roi yn y Llyfrgell.
O ran eich ail bwynt, rwy'n deall y bydd canllawiau'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos iawn.