Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 15 Chwefror 2022.
Ar ôl 19 wythnos, rydym ni, o'r diwedd, wedi penderfynu cael gwared ar y pasbortau brechu. Wrth gwrs, mae hynny'n fy mhlesio i'n fawr iawn, am eu bod nhw'n aneffeithiol, ac yn gostus i fusnesau, heb unrhyw dystiolaeth eu bod nhw'n gwneud unrhyw beth gwirioneddol i rwystro ymlediad coronafeirws na chynyddu cyfraddau brechu. Yn fy marn i, ni ddylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi dod â'r penderfyniad ger ein bron i fod â phasbortau COVID yn y lle cyntaf un. Roeddech chi'n dweud y gall busnesau barhau i fod â phasbortau brechu yn wirfoddol; a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd gan fusnesau eu bod nhw'n awyddus i wneud felly, ac os ydych chi, o ba sectorau arbennig y daeth hynny? Fe fyddai hi'n ddefnyddiol i ni gael gwybod hynny.
Rwyf i wedi gofyn i chi ar sawl achlysur am dystiolaeth o ran y pasbortau COVID, ac rydych chi naill ai wedi dweud wrthyf i eich bod chi wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol ynglŷn â phasbortau brechu o wledydd lle nad yw'r niferoedd sydd wedi manteisio ar frechlynnau yn fawr iawn—wrth gwrs, yng Nghymru, nid yn y sefyllfa honno yr ydym ni; rydym ni mewn sefyllfa lawer gwell, lle mae 86 y cant, fel roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi heddiw, wedi cael yr ail ddos ac mae 67 y cant wedi cael y brechiad atgyfnerthu—neu rydych chi wedi dweud bod y dystiolaeth sy'n dangos pa mor effeithiol ydyn nhw wedi cael ei chyhoeddi eisoes. Ond fe hoffwn i eich cyfeirio chi at eich cell cyngor technegol chi ddoe. Pan oedden nhw'n cyhoeddi gwybodaeth, roedden nhw'n dweud y ceir llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiolrwydd y pàs COVID o ran rhwystro heintiadau, o gofio nad oes yna werthusiad sylweddol wedi bod o'r ymyriadau hyn. Rydych chi'n dweud yn aml mai un mesur ymhlith llawer yw hwn, ond mae'r gell yn mynd ymlaen i ddweud, er bod potensial i hwnnw leihau heintiadau ynghyd â'r mesurau eraill, mai parhau i fod yn brin y mae'r dystiolaeth a adolygwyd gan gymheiriaid i ddangos hynny. Felly, rwyf i am ofyn i chi unwaith eto am y dystiolaeth honno. A gafodd y dystiolaeth honno ei chasglu yng Nghymru, a phryd y caiff y dystiolaeth honno ei chyhoeddi? Mae angen i ni werthuso effeithiolrwydd pasys COVID, oherwydd fe geir y posibilrwydd eu bod nhw wedi peri niwed mawr i economi'r nos, heb fod o fawr ddim lles i iechyd y cyhoedd.
Gweinidog, rwyf i am ofyn i chi am y cynnydd o ran ôl-groniad y rhestrau aros. Wrth gwrs, fe wyddom ni ein bod ni mewn sefyllfa yma yng Nghymru lle mae un o bob pump o boblogaeth Cymru yn dal i fod ar restr aros ac mae un o bob pedwar wedi bod yn aros am dros flwyddyn, ac mae hynny'n cyfateb i un o bob 19 yn Lloegr ac un o bob 13 yn yr Alban. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd GIG Lloegr, wrth gwrs, ei gynllun i ymdrin â'r ôl-groniad, ac rwy'n credu, yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, Gweinidog, i chi ddweud y byddech chi'n edrych ar y cynllun hwnnw gyda diddordeb. Felly, fe hoffwn i gael unrhyw asesiad cynnar a wnaethoch chi o'r cynllun yn Lloegr. Pa agweddau yn y cynllun hwnnw, yn eich barn chi, sy'n briodol i'w trosglwyddo i'ch cynllun chi pan fyddwch chi'n ei gyhoeddi ef ym mis Ebrill?
Gweinidog, yn eich datganiad chi heddiw, rydych chi'n sôn am gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechlyn i bob plentyn pump i 11 oed, felly efallai y gwnewch chi roi rhyw syniad i ni o ba ystyriaethau y gwnaethoch chi eu rhoi i fanylion cyflwyno'r cynllun hwnnw ar gyfer y grŵp oedran penodol hwn.
Ar y cyfan, Gweinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am lacio cyfyngiadau COVID ymhellach. Fe hoffwn i eich holi chi ynglŷn ag ynysu gorfodol, o ystyried cymaint o drafod a fu ar y mater hwn. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi mynegi syndod a siom ynghylch dod â hynny i derfyn yn Lloegr, ac mae eich Llywodraeth chi'n dweud yr hoffech chi weld y dystiolaeth i gefnogi'r cam hwn. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa dystiolaeth a hoffech chi ei gweld yn hynny o beth? Ac yn ail, mae Gweinidog yr economi, Vaughan Gething, wedi dweud y gellid terfynu hynny yng Nghymru cyn diwedd y mis nesaf. Felly, pa dystiolaeth sydd wedi llywio'r datganiad hwnnw, os, fel yr ydych chi'n dweud, nad oedd yna unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny? Ac yn drydydd, mae eich cyd-Aelodau chi yn y Llywodraeth wedi honni na roddodd Llywodraeth y DU rybudd i chi am eu penderfyniad nhw. Fe allai hynny fod, wrth gwrs, am eu bod nhw'n awyddus i wneud y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Cyffredin i ddechrau, yn hytrach na'i drosglwyddo i newyddiadurwyr yn gyntaf i gyd. Ond rwyf i am ofyn i chi: pa mor aml ydych chi'n rhybuddio Gweinidogion Llywodraeth y DU am eich penderfyniadau chi yn y fan hon?