Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r sefyllfa gyfredol o ran iechyd y cyhoedd a chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o reoliadau coronafeirws, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.
Mae Cymru ar lefel rhybudd 0 ar hyn o bryd. Rydym ni wedi mynd heibio i benllanw omicron dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac rydym ni'n gynyddol ffyddiog bod niferoedd yr achosion yn prinhau. Mae heintiadau yn y gymuned yn prinhau. Mae nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 yn lleihau, a nifer y bobl mewn gofal critigol gyda COVID-19 yn ddiweddar yw'r lleiaf ers mis Gorffennaf 2021. Mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn newyddion cadarnhaol iawn.
Wrth gwrs, fe geir rhai rhesymau i ni ddal ati i fod yn ofalus. Mae hi'n amlwg nad yw'r pandemig ar ben eto. Mae COVID, yn anffodus, yn parhau i fod gyda ni. Y gyfradd o achosion, ar sail profion PCR cadarnhaol, yw 326 o achosion fesul 100,000. Mae hon yn gyfradd uchel iawn o hyd, er nad yw hi mor uchel â'r cyfraddau eithriadol a welsom ni yn anterth y don omicron.
Rydym ni'n cadw llygad barcud hefyd ar achosion o is-amrywiolyn omicron, o'r enw BA.2. Mae honno'n ffurf fwy trosglwyddadwy fyth o'r feirws na'r un yr ydym ni wedi dod i arfer â hi. Daeth bron i 250 o achosion i'r golwg yng Nghymru hyd yn hyn. Fe fu yna rywfaint o ddyfalu mai dyna'r hyn sy'n gyrru'r gyfradd uchel o achosion yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Llywydd, cyn i mi droi at ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, fe hoffwn i fyfyrio am eiliad ar y cynnydd a'r gwahaniaeth aruthrol a wnaeth ein rhaglen frechu wych ni. Wrth i ni nesáu at ddwy flynedd ers yr achos cyntaf o ddiagnosis coronafeirws yng Nghymru, fe weinyddwyd dros 6.8 miliwn dos o'r brechlyn COVID-19. Mae mwy na naw o bob 10 o bobl wedi cael un dos, mae 86 y cant wedi cael dau ddos, ac mae 67 y cant wedi cael dos atgyfnerthu. Mae brechu wedi helpu i newid cwrs y pandemig hwn, gan wanhau'r cyswllt rhwng y feirws â salwch difrifol, mynediad i ysbyty, a marwolaeth i gymaint ohonom ni. Mae brechu wedi achub bywydau di-rif, ac mae cyflymder ein rhaglen atgyfnerthu ni wedi ein helpu ni wrth dawelu storm omicron, heb os nac oni bai.
Rwy'n falch fod ein system ar-lein ni ar gyfer aildrefnu apwyntiadau bellach yn fyw ac yn cael ei chyflwyno a'i hintegreiddio yn raddol i gynlluniau cyflenwi brechlyn COVID-19 y byrddau iechyd. Dyma offeryn arall i fyrddau iechyd allu darparu dulliau ychwanegol i bobl ar gyfer cysylltu i aildrefnu eu hapwyntiadau nhw os nad yw'r un a roddwyd iddyn nhw'n gyfleus. Fe fydd byrddau iechyd yn parhau i fod â llinellau ffôn ar gael i bobl nad ydyn nhw'n cael y neges testun ar gyfer aildrefnu neu sy'n methu â mynd trwodd i'r gwasanaeth aildrefnu ar-lein. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n annog unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu eto, neu nad yw wedi gorffen ei gwrs brechlyn, i ddod i gael ei bigiadau.
Er na chafodd hyn ei gyhoeddi yn swyddogol eto gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, rwyf i wedi cael cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu pob plentyn pump i 11 oed. Rwyf i wedi cytuno i'w gynnig, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i weithredu'r cynnig hwn. Rydym ni'n aros am gyngor o ran a ddylai'r carfannau mwyaf agored i niwed gael brechiad atgyfnerthu arall i'w diogelu nhw dros fisoedd y gwanwyn a'r haf. Rydym ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i gynllunio ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol i sicrhau ein bod ni'n hyblyg ac yn barod i roi unrhyw gyngor ar waith wedi i mi ystyried hyn yn ofalus.