Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 15 Chwefror 2022.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fras, gyda'r cynnydd tuag at gyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am gynnydd sylweddol mewn cyflogau yn y sector hwn. Gall swyddi gofal cymdeithasol roi boddhad, ond maen nhw'n swyddi heriol a chyfrifol iawn. Dylid gwobrwyo'r swyddi hyn yn unol â hynny. Mae Plaid Cymru am gael cydraddoldeb cyflog a pharch cyfartal rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai cyflawni hyn yn mynd gryn ffordd tuag at atal y llif o weithwyr gofal yn gadael y sector. Er bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am daliad bonws o £1,000 i weithwyr gofal i'w groesawu, rwy'n poeni mai dim ond papuro dros y craciau, sy'n rhai dwfn ac wedi hen sefydlu mewn gofal cymdeithasol, y bydd hyn. Rwy'n ofni na fydd hyn yn gwneud fawr ddim i ddenu neb i'r sector, ac rwy'n amau y bydd yn dwyn perswâd ar unrhyw un sy'n ystyried gadael i aros.
Fel y dywedais i yn gynharach, mae'r datganiad hwn heddiw yn gam ymlaen tuag at gyflawni cyflog byw gwirioneddol. Byddwn i'n llawer hapusach pe bai'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â darparu cyflog byw i bob gweithiwr gofal ar unwaith. Ni fydd y cyhoeddiad heddiw o fawr o gysur i weithwyr gofal sydd hyd yn hyn heb gael y cyflog byw, ac efallai y byddant yn aros am ddwy flynedd arall cyn ei gael, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth. Mae'r argyfwng costau byw eisoes yma, ac mae'n mynd i waethygu'n fawr. Mae gweithwyr gofal yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau fel y mae pethau; mae arnyn nhw angen y codiad cyflog hwnnw gorau po gyntaf. A wnaiff y Dirprwy Weinidog felly egluro cyflymder cyflwyno'r cyflog byw i weithwyr gofal? Pryd mae'n disgwyl i 50 y cant o weithwyr gofal fod yn ennill y cyflog byw? Neu pryd y mae'n disgwyl iddo fod yn 75 y cant neu 90 y cant o'r staff? Am resymau a grybwyllwyd eisoes, a oes unrhyw bosibilrwydd o gyflwyno'ch ymrwymiad yn gynt fel bod pob gweithiwr gofal yn cael yr isafswm cyflog cyn eich dyddiad yn 2024 ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn?
Er bod y datganiad hwn yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol, rwyf eisiau sôn am y rhan allweddol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn cymdeithas. Ni allwn anghofio eu cyfraniad aruthrol. Rwy'n ategu galwadau'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hamddiffyn rhag caledi ariannol gan Lywodraeth Cymru. Gallwch wneud hyn drwy gynyddu'r gwaith o lobïo Llywodraeth y DU i ddiwygio lwfans gofalwr i'w godi i'r un lefel o leiaf â lwfans ceisio gwaith. Dyma un o'r adegau hefyd pan all unrhyw un sy'n gwerthfawrogi tegwch a pholisïau blaengar fwrw llygad eiddigeddus dros drafodion yn yr Alban. Yno, mae ganddyn nhw atodiad lwfans gofalwr, sy'n cael ei dalu ddwywaith y flwyddyn gan Social Security Scotland. Mae hyn yn tanlinellu'r angen am system fudd-daliadau ar wahân i Gymru fel y gallwn lunio system budd-daliadau mwy tosturiol yma yng Nghymru sy'n debyg i'r un yn yr Alban. Dirprwy Weinidog, ble ydych chi'n sefyll ar y mater hwn? A fyddwch chi'n lobïo am y pwerau i allu gwneud hyn? Diolch yn fawr.