Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 15 Chwefror 2022.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i gyhoeddi y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, a chynorthwywyr personol a ariennir drwy daliadau uniongyrchol.
Mae canolbwyntio ar y gweithwyr hyn yn cydnabod ein huchelgais ehangach ni i wella ansawdd gwasanaethau ac ymdrechu i sicrhau parch cydradd â gwasanaethau iechyd cyhoeddus allweddol eraill drwy eu proffesiynoli. Mae cynnwys cynorthwywyr personol sy'n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol yn adlewyrchu bod y swyddi hyn yn aml yn debyg iawn i swydd gweithiwr gofal cartref, ac rydym ni'n awyddus i barhau i ddiogelu llais a rheolaeth defnyddwyr y gwasanaethau o ran sut y caiff y cymorth sy'n angenrheidiol ei ddarparu ar eu cyfer nhw, sef yr egwyddor allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wyddom ni y bydd galwadau i fynd ymhellach, ond mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni'r ymrwymiad hwn mewn ffordd ystyriol sy'n ein galluogi ni i sicrhau bod hynny'n gynaliadwy ac yn fforddiadwy. Yn ogystal â hynny, er mai ein hymrwymiad gwreiddiol ni oedd cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn ystod tymor y Senedd hon, mae ein dull gweithredu ni'n caniatáu i ni ei gyflwyno nawr o fis Ebrill ymlaen, gan helpu'r sector i wynebu ei heriau cyfredol o ran recriwtio a chadw yn gynt na'r disgwyl.
Rydym ni wedi cyhoeddi y bydd £43 miliwn ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynnig y cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf y graddfeydd cyflog. Fe fydd hyn yn helpu i roi rhywfaint o hyblygrwydd yn y cyllid. Mae hyn yn bwysig ar gyfer helpu i osgoi ansefydlogrwydd yn y bandiau cyflog is hyn. Mae swyddogion yn gweithio yn agos gyda chyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu canllawiau gweithredu i gefnogi'r broses o'i gyflwyno'n llwyddiannus o fis Ebrill ymlaen.
Fe fyddwn ni hefyd yn comisiynu gwerthusiad annibynnol a deinamig o'r gweithredu i fonitro effaith, gan gynnwys sicrhau bod y cyllid yn nwylo'r gweithwyr y bwriedir iddyn nhw elwa arno mewn da bryd, a bod y canllawiau ar gyfer gweithredu yn effeithiol o ran cefnogi comisiynwyr a chyflogwyr. Fe fydd hyn yn ein helpu ni hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol, a llywio amcangyfrifon o ran ariannu i'r blynyddoedd i ddod.
Rydym ni'n deall yr heriau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu wrth i staff edrych ar sectorau eraill sydd â thelerau ac amodau sy'n ymddangos yn fwy deniadol. Felly fe fyddwn ni hefyd yn gwneud taliad ychwanegol o £1,498 i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny y byddwn ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw. Fe fydd staff gofal uwch a rheolwyr mewn cartrefi gofal a gofal cartref yn cael y taliad hwn hefyd am ei fod yn amlygu ein hymrwymiad ni i godi statws, a gwella telerau ac amodau ein gweithlu gofal cymdeithasol proffesiynol ni. Fe fydd y taliad hwn yn golygu y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y gyfradd dreth sylfaenol yn cael un taliad ychwanegol o £1,000 yn eu pecyn cyflog nhw. Fe fydd manylion y cynllun hwn yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Rydym ni'n awyddus i weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal cymdeithasol ac yn dilyn gyrfa hir sy'n rhoi boddhad. Rydym ni'n disgwyl y bydd y taliad ychwanegol a'r cyflog byw gwirioneddol yn cael eu prosesu yng nghyflog pobl o fis Ebrill i fis Mehefin, oherwydd cymhlethdod y sector gofal a'r nifer fawr o gyflogwyr dan sylw. Er nad ydym ni'n disgwyl i'r codiad cyflog byw gwirioneddol, na'r taliad ychwanegol, ddatrys problemau'r sector i gyd o ran recriwtio a chadw staff, rydym ni o'r farn eu bod nhw'n gam cyntaf gwerthfawr a hanfodol, yn enwedig o ran helpu i gadw gweithwyr drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.
Fe fyddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ynglŷn â'r camau priodol i'w cymryd i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol yn fwy eang, fel sut y dylid cymhwyso'r diffiniad o 'waith teg' ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a nodi beth y dylai ffurf arferion gwaith da fod mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i greu gweithlu mwy cadarn sy'n ennill cyflogau gwell ym maes gofal cymdeithasol, a chefnogi'r sector drwy'r cyfnod heriol hwn i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon y gall pobl ddibynnu arnyn nhw.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru ynglŷn â'n hymrwymiad ni i gytundeb cydweithredu o ran dyfodol gofal cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais cyffredin ni i lunio gwasanaeth gofal cenedlaethol, sy'n rhad ac am ddim lle bod angen. Fe fyddwn ni hefyd yn parhau i integreiddio iechyd a gofal yn well, ac yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth a gwobr hafal i weithwyr iechyd a gofal. Diolch.