4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 3:35, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Comisiynydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac mae hi'n siomedig iawn eich bod chi'n parhau i anwybyddu cyngor pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ni fydd y cyflog truenus sy'n cael ei gynnig yn denu pobl i'r sector gofal, ac ni fydd y bonws o £1,000 a ddadorchuddiwyd gennych chi, gyda chryn sbloet, yn gwneud hynny ychwaith. Gyda biliau'r aelwyd fel maen nhw ar hyn o bryd, ni all gweithwyr gofal fforddio byw ar y cyflog pitw a gynigir. Ni ddylech chi gymryd mantais ar garedigrwydd nac ymroddiad gweithwyr gofal. Mae'r bobl anhygoel hyn yn estyn gofal hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, ac fe ddylid eu gwobrwyo nhw am hynny. Fel y mae hi, nid yw gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn ddewis deniadol, ac oni bai eich bod chi'n gwasgu'r danadl ac yn derbyn nad ydyw £9.90 yr awr yn ddigonol, ac oni bai ein bod ni'n talu cyflog teilwng i weithwyr gofal, fe fydd yr argyfwng yn y sector yn mynd yn drychineb. Nid yn unig y bydd gennym ni broblem recriwtio, ond fe fydd cadw staff yn broblem hefyd.

Mae angen i ofal cymdeithasol fod yn yrfa sy'n rhoi boddhad, ac ni all y gwobrau fod yn rhai ysbrydol yn unig, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn faterol hefyd. Ac nid yw taliadau untro, er eu bod nhw i'w croesawu, yn ddigonol. Nid yw talu llai na'r sector manwerthu yn ddigonol. Felly, pam ydych chi'n parhau â'r polisi cyflog byw gwirioneddol, pan fo'r sector a'r undebau yn dweud nad ydyw hwnnw'n ddigonol? A ydych chi wir yn credu y bydd talu'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r problemau o ran recriwtio a chadw staff y mae'r sector yn eu hwynebu? Dirprwy Weinidog, un o'r dewisiadau y gwnaethoch chi eu cyflwyno oedd alinio gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, a fyddai'n costio tua £54 miliwn yn ôl eich amcangyfrifon chi. Pam nad aethoch chi ar hyd y trywydd hwnnw? Ai dim ond ar sail y gost yr oedd hynny? Ac a fyddech chi'n ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddan nhw'n talu £10.85 yr awr i'w staff gofal nhw? A ydych chi'n disgwyl y bydd awdurdodau lleol eraill yn dilyn esiampl ragorol sir Fynwy?

Ac roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi fod eich dull mesuredig chi'n un cynaliadwy. Sut all hwnnw fod yn gynaliadwy os nad yw'n gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd? Pam wnaethoch chi ddewis bonws untro eleni, yn hytrach na defnyddio'r £96 miliwn ychwanegol i dalu cyflog gwell i'r staff cyfan? Ni all staff ddibynnu ar fonysau, ac ni ellir eu cyfrif nhw tuag at bethau fel morgeisi. Pa asesiad a wnaethpwyd o effaith y polisi hwn wrth helpu i gadw staff? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu eich nod chi o weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal ac yn dechrau gyrfa hir a gwerth chweil, fel dylai hi fod. I wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau mwy na phecyn cyflog gwerth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau telerau ac amodau gwerth chweil hefyd. Pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn hynny o beth, neu a oes yn rhaid i'r sector aros wrth i chi â Phlaid Cymru drin a thrafod eich cynlluniau chi ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol? Diolch i chi.