Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch. Doeddwn i ddim wedi clywed yn glir fanna—mae'n flin gen i. Diolch yn fawr iawn i'r Llywydd am hynny. A gaf i hefyd ddatgan diddordeb a thynnu eich sylw at fy nghofrestr buddiannau? Mae'r rheoliadau yma yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir er mwyn gwella ansawdd tai yng Nghymru. Byddwn ni felly yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, ond cyfyd ambell i bwynt yr hoffwn eglurhad yn eu cylch, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog.
Mae’r rheoliadau yn gosod allan cyfyngiadau ar roi rhybuddion. Os nad ydy landlord yn cyrraedd y safonau, yna caiff ei annog i gydymffurfio â’r disgwyliadau er mwyn medru rhoi rhybudd i’r tenant. Ond, beth am y tenantiaid sydd wedi eu cloi mewn llety preifat o safon isel, ac sydd ddim mewn safle i adael oherwydd amgylchiadau ariannol neu eraill? Os nad ydyn nhw’n cyflwyno rhybudd neu os nad ydy’r landlord yn gwneud hynny, yna beth sydd am annog y landlord i sicrhau fod yr eiddo yn cyrraedd y safonau angenrheidiol bryd hynny?
O ran effeithlonrwydd, mi fyddwch yn gwybod mai Cymru sydd â’r stoc dai hynaf yn y wladwriaeth hon, a’r sector rhent breifat sydd efo’r stoc dai hynaf hefyd, efo canran uwch o dai o ansawdd gwael. Ac mae canran y tai yn y sector rhent breifat wedi cynyddu yn sylweddol ers 1981. Dangosodd arolwg cyflwr tai Cymru 2017-18 ei bod wedi cymryd 10 mlynedd i gyfartaledd y band effeithlonrwydd wella o fand E i fand D. Yn naturiol, fflatiau oedd y mwyaf effeithiol efo 55 y cant o fflatiau â chyfradd effeithlonrwydd band C neu well, o’u cymharu â thai, oedd â 25 y cant yn unig yn cyrraedd y lefel yma. Ac mae’r tai yn ein cymunedau gwledig yn llai effeithiol fyth. Felly, pa gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd i gyflymu’r broses o wella ansawdd tai, o ystyried ei fod wedi cymryd 10 mlynedd i wella effeithlonrwydd ynni o un band i’r llall yn unig? Sut bydd y Llywodraeth yn targedu eu gweithredoedd er mwyn sicrhau bod effeithlonrwydd yn gwella yn yr ardaloedd lleiaf effeithlon, yn benodol yn ein cymunedau gwledig?
Bydd y rheoliadau yma yn sicr yn creu cytundeb hir a chymhleth i’r tenant, efo nifer fawr o’r rheoliadau yn cael eu hymgorffori yng nghorff y cytundeb rhwng y tenant a’r landlord. Sut mae disgwyl i bobl gyffredin ddeall beth ydy eu hawliau mewn dogfen mor hirfaith? Felly, pa gamau mae’r Llywodraeth am eu cymryd i wneud y broses yn symlach, neu pa gymorth fydd ar gael i sicrhau fod tenantiaid yn deall y cytundeb?
Yn olaf, o ran y Ddeddf yn ehangach, mi fyddwch yn gwybod fod y Ddeddf, fel ag y mae wedi ei llunio, yn gwneud pethau yn anodd iawn i’r enwadau crefyddol sydd yn gosod tai fel mans i’w gweinidogion, ficeriaid neu arweinyddion crefyddol. Mae rhai enwadau wedi dechrau gwerthu eu tai oherwydd yr anawsterau yma yn barod. Mae’r cyfnod rhybudd o chwe mis yn cael ei ostwng i ddau fis i bobl cyflogedig i’r cwmni sydd yn berchen yr eiddo, ond dydy hyn ddim yn berthnasol i enwadau crefyddol. A wnewch chi ystyried addasu’r Ddeddf ymhellach i adlewyrchu statws cyflogedig gweinidogion, ficeriaid ac arweinyddion crefyddol, neu a fyddech, Weinidog, gystal â chael cyfarfod rhwng Cytûn a minnau yn y dyfodol agos i drafod y sefyllfa ymhellach? Diolch yn fawr iawn.