Part of QNR – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2022.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i ychwanegu gwerth at ein cadwyni cyflenwi amaethyddol. Mae'r cynllun datblygu gwledig wedi dyfarnu bron i £680,000 i Fenter Môn i ganolbwyntio ar arloesi a gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ddatblygu maniffesto gwlân. Bydd yr adroddiad yn gosod y blaenoriaethau ar gyfer ein camau gweithredu.