Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 1:55, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae incwm mwy na thri o bob 10 aelwyd ag incwm net o lai na £40,000 wedi gostwng ers mis Mai 2021, ac ar gyfer aelwydydd ag incwm net o fwy na £40,000, mae incwm mwy nag un o bob pump wedi cynyddu. Arhosodd twf cyflogau yn ei unfan ym mis Hydref, gostyngodd ym mis Tachwedd, ac mae'n annhebygol o ddechrau tyfu eto tan chwarter olaf eleni, gan effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm isel. Erbyn diwedd 2024, disgwylir y bydd cyflogau real £740 y flwyddyn yn is nag y byddent wedi bod pe bai twf cyflogau wedi parhau ar yr un lefel â chyn y pandemig. Mae hwn yn amlwg yn argyfwng sy'n gwaethygu gwahaniaeth economaidd a oedd eisoes yn sylweddol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos ein bod yn wynebu'r lefelau uchaf erioed o chwyddiant, sy’n fwy na chyflogau ac sy'n gwthio costau byw yn uwch byth. Mae maint y broblem yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed fod strategaeth economaidd Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd. Felly, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â hyn, a pha bwerau economaidd pellach y mae’n credu y dylid eu datganoli i Gymru, fel y gallwn fynd i’r afael yn iawn â’r argyfwng hwn a lliniaru ei effeithiau negyddol ar ein cymdeithas? Diolch.