Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:52, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yng ngeiriau Raymond Williams, mae diwylliant yn gyffredin a gwn eich bod chi a minnau, Ddirprwy Weinidog, yn rhannu’r gred gyffredin y dylid cael mynediad teg at gyfranogiad diwylliannol. Er ein bod wedi gweld rhai prosiectau diwylliannol digidol gwych ac arloesol yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig, mae ymchwil wedi dangos bod y newid i brofiadau diwylliannol digidol dros gyfnod y pandemig wedi methu sicrhau cynulleidfaoedd diwylliannol mwy amrywiol, gan ymgysylltu’n bennaf â’r rheini a oedd eisoes yn ymwneud â gweithgareddau diwylliannol. Yn ychwanegol at hyn, bu gostyngiad mwy yn nifer yr oriau o gyfranogiad gan fenywod a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig o gymharu â dynion gwyn.

Er bod gan arloesi digidol rôl i’w chwarae, heb os, wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ni fydd hyn ond yn gweithio pan fydd wedi’i ymgorffori mewn strategaeth hirdymor o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac ysgolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i benderfynu pa wersi a ddysgwyd ynghylch ehangu ymgysylltiad drwy’r gweithgareddau diwylliannol digidol a ariannwyd ganddynt yn ystod y pandemig, a sut y bwriadwch sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn diwylliant?