Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:49, 16 Chwefror 2022

Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, fel rhan o'r cyhoeddiad ynglŷn â'r ffi drwydded, eu bod yn cau'r gronfa cynnwys cynulleidfaoedd ifanc, sef y young audiences content fund. Mae 5 y cant o'r gronfa wedi ei thargedu ar gyfer creu cynnwys mewn ieithoedd brodorol, gan gynnwys y Gymraeg, ac wedi cefnogi nifer o gynyrchiadau o safon i blant yng Nghymru, gan gynnwys cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu cyn hir, Bex, fydd â ffocws ar iechyd meddwl.

Gwn eich bod chi, Ddirprwy Weinidog, yn pryderu fel finnau am effaith y toriadau i'r BBC ar ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg yma yng Nghymru. Bydd torri'r gronfa hon hefyd yn cael effaith niweidiol pellach. Ac o ystyried pwysigrwydd darlledu o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i leihau effaith y golled hon mewn cyllid a buddsoddiad mewn darlledu yn y Gymraeg, ac yn benodol o ran darpariaeth i blant a phobl ifanc?