Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 16 Chwefror 2022.
Dyna ran o'r rheswm pam ei bod mor bwysig ceisio cynnal y buddsoddiad nid yn unig mewn sgiliau, ond hefyd yn y gwasanaeth cymorth busnes a ddarparwn drwy Busnes Cymru, oherwydd gallwn ddarparu pecyn cymorth pwrpasol, ar gyfer unigolion neu ar gyfer ardaloedd penodol. Nawr, credaf y byddai hynny'n rhywbeth y byddai'n werth ei archwilio rhwng fy swyddogion a RhCT fel yr awdurdod lleol, fel y sonioch chi amdano, sydd eisoes â rhaglenni gweithredol yn ardal y sir. Ond gan eich bod wedi nodi Cwm Cynon yn benodol, efallai y byddai'n gwneud synnwyr imi gysylltu â'ch swyddfa i weld a allwn gael sgwrs am yr hyn y gallem ei wneud yn benodol o amgylch Cwm Cynon gyda chi a'r awdurdod lleol a fy swyddogion yn gweithio gyda Busnes Cymru.