Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mark, ac yn sicr, mae gennyf ddiddordeb mawr ym mater hepatitis C, sydd, wrth gwrs, yn gyflwr hirdymor y mae'n rhaid i lawer o bobl fyw gydag ef. Rwy'n falch iawn o gytuno i ystyried a oes unrhyw bosibilrwydd o newid y dyddiad targed hwnnw. Yn amlwg, gorau po gyntaf y gallwn ddileu'r clefyd hwn, felly rwy'n ymrwymo i gael golwg arall i weld a oes unrhyw ffordd o bennu dyddiad cynharach.FootnoteLink