Darpariaeth Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:58, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Russell. Yn sicr, rwyf wedi bod ar safle datblygiad llesiant newydd arfaethedig gogledd Powys, ac yn sicr, mae’n edrych fel datblygiad cyffrous. Mae achos busnes y rhaglen ar gyfer y datblygiad yn mynd drwy'r broses graffu derfynol ar hyn o bryd, ond rwyf am weld a allaf gael gwell ymdeimlad o ba bryd yn union y gwneir y penderfyniad. Yr hyn y bydd yn rhaid i mi eich rhybuddio yn ei gylch, mae arnaf ofn, yw bod pwysau sylweddol ar raglen gyfalaf y GIG ac y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol, ac felly yn sicr, byddwn yn gobeithio gweithio gyda'r cyngor ac ardaloedd eraill i weld beth y gallwn ei wneud i ddatblygu rhaglenni fel hon a rhaglenni eraill.