Darpariaeth Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:00, 16 Chwefror 2022

Diolch yn fawr. Dŷn ni ddim yn y sefyllfa yna eto lle rŷn ni wedi cael y golau gwyrdd. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai efallai fwy o arian ar gael ar gyfer cyfalaf y tu mewn i raglen yr NHS, felly, ar hyn o bryd, rŷn ni'n mynd ati i weld ble mae'n bosibl inni gario ymlaen â'r datblygiadau rŷn ni'n awyddus i'w gweld, ac, yn sicr, byddem ni'n awyddus i weld hwn yn datblygu, os yn bosibl. Felly, arian, dwi'n siŵr, fydd y peth fydd yn cyfyngu unrhyw symudiad tuag at symud ymlaen yma, felly dyna pam rŷn ni angen mynd trwy'r sgrwtini olaf yna, a gobeithio y gallaf i ddod nôl ag ateb i chi cyn bo hir ar y mater yma.