Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Chwefror 2022.
Mae'r bwrdd iechyd wedi buddsoddi £840,000 arall ym maes deintyddiaeth, gan gynnwys ar gyfer darparu mynediad brys. O ganlyniad, mae'r ddarpariaeth a gynigir wedi cynyddu o 157 i 300 o apwyntiadau brys yr wythnos. Mae'r mynediad at ofal mwy rheolaidd yn dal i fod yn gyfyngedig o ganlyniad i'r mesurau rheoli heintiau angenrheidiol sydd ar waith. Wrth flaenoriaethu, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ôl anghenion y claf.