Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch. Ar y pwyntiau yr ydych newydd eu codi am yr ymgynghoriad hwnnw, gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau pwysig iawn ynghylch pa mor denau eu poblogaeth y gallai rhai o'r ardaloedd hyn fod, ac felly'r risg, gyda chynrychiolaeth gyfrannol, o golli'r cyffyrddiad lleol hwnnw, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ardal mor fawr ei chwmpas, ac mae hanfodion cynghorau a chynghorwyr mewn gwirionedd yn ymwneud â bod mewn cysylltiad â'u cymunedau. A fyddech yn derbyn bod honno'n risg gyda'r cynigion a glywsom heddiw?