5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:12, 16 Chwefror 2022

Gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, braidd, ond fe wnaf i drio ymateb i rai o'r pwyntiau sydd ddim wedi cael ymateb iddyn nhw.

Mae'n dda gweld bod Gareth Davies wedi dod nôl i'r Siambr ar ôl gadael am y rhan fwyaf o'r drafodaeth ar ôl gwneud ei ymyriad. Mi fyddai wedi bod yn handi ichi fod yma i glywed y ffaith, wrth gwrs, taw dim ond tair sedd sydd wedi cael eu hymladd yn ddiwrthwynebiad—wel, dydych chi ddim yn ymladd seddi, ond rŷch chi'n gwybod beth dwi'n meddwl—yn yr Alban ers 2007. Pymtheg mlynedd—tair sedd ddiwrthwynebiad. Cawsom ni bron i 100 o seddi diwrthwynebiad yng Nghymru dim ond yn yr etholiad diwethaf. Felly, mae e yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan fo'n dod i hynny, ac mae hi yn siomedig bod Sam Rowlands wedi trio camddehongli, efallai, dywedwn ni, ie, y cwymp yn y bleidlais, fel esboniodd Heledd Fychan. Fe allaf i rannu dadansoddiad gan yr LSE os ydy e eisiau—