Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl ragorol iawn, ac rwyf wedi mwynhau gwrando ar y gwahanol safbwyntiau. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i siarad am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei olygu i ddemocratiaeth leol yma yng Nghymru, gan ddarparu, fel y gwna, ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu.
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Ddeddf yn seiliedig ar alluogi, annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol, ac i roi mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal. Byddai'r hyn sy'n cael ei awgrymu yma heddiw yn gosod un system etholiadol ar brif gynghorau, beth bynnag y bo barn y cyngor hwnnw neu'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Felly, yn y cyd-destun hwn, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn nodi'r darpariaethau sy'n ymestyn y bleidlais mewn etholiadau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Dyma ddau o'r newidiadau pwysicaf y mae'r Ddeddf wedi'u cyflwyno. Gall rhai 16 ac 17 oed adael cartref ac ymuno â'r fyddin, ac felly mae'n gywir ac yn gyfiawn ein bod yn rhoi llais iddynt ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn rhoi cyfle gwerthfawr inni osod unigolyn ifanc ar ddechrau'r daith ddemocrataidd gyda'r offer cywir.
Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai pobl sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymunedau gael llais yn nyfodol y gymuned honno. Credwn mai'r prawf i ddangos a yw rhywun yn cael cymryd rhan mewn etholiadau lleol yw a ydynt yn preswylio'n gyfreithlon yma yng Nghymru, ac eisiau cyfrannu at ein cymdeithas. Nid oes angen i ddamweiniau dinasyddiaeth fod yn ystyriaethau perthnasol i'r prawf hwn.
Yn bwysig, am y tro cyntaf, cyflwynodd Deddf 2021 ddyletswydd ar lywodraeth leol hefyd i annog y cyhoedd i gyfrannu eu safbwyntiau ar benderfyniadau i'w cynghorau, gan gynnwys y broses o ddatblygu polisi. Mae democratiaeth yn fwy nag etholiadau, ac mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad rhwng y canfyddiadau o allu cyfyngedig i ddylanwadu ar ganlyniadau a nifer isel o bleidleiswyr. Nod y Ddeddf yw mynd i'r afael â hyn drwy osod dyletswyddau penodol ar brif gynghorau a fydd yn cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol ac yn gwella tryloywder.
Fel y dywedais, mae'r Ddeddf yn seiliedig ar egwyddorion hwyluso cyfranogiad a dewis mewn democratiaeth. Yn unol â hyn, mae'n galluogi prif gynghorau i newid y system bleidleisio y maent yn ei defnyddio. Prif gynghorau, pobl leol a chymunedau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu orau i anghenion eu cymunedau. Mae cyflwyno dewis lleol yn cefnogi'r egwyddor o wneud penderfyniadau ar lefel fwy lleol, ac yn caniatáu i gynghorau adlewyrchu'r gwahanol anghenion a demograffeg ar draws rhannau o Gymru.
Ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2022, bydd prif gynghorau'n cael dewis pa system bleidleisio y maent am ei defnyddio—naill ai'r cyntaf i'r felin, neu system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd pob cyngor yn parhau i ddefnyddio system y cyntaf i'r felin oni bai eu bod yn penderfynu newid. Byddai newid o'r fath yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair, sydd yr un fath â'r hyn sy'n ofynnol i newid system bleidleisio'r Senedd. Yna, byddai angen i unrhyw gyngor sy'n dewis newid ddefnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy rownd nesaf o etholiadau arferol, ac ar ôl hynny gallai benderfynu a ddylid newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol.
Byddai'r gweithdrefnau a nodir yn Neddf 2021 hefyd yn gymwys pe bai'r cyngor yn argymell newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol. Mae'n bwysig nodi y byddai'n rhaid i brif gyngor ymgynghori â'r bobl yn eu hardal sydd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad llywodraeth leol, pob cyngor cymuned yn yr ardal, a phobl eraill y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, cyn y gall arfer ei bŵer i newid systemau pleidleisio.
Rydym yn credu mewn dewis lleol. Ar ôl rhoi'r gallu i brif gynghorau, gan weithio gyda'u cymunedau, ddewis pa system bleidleisio sy'n gweithio orau iddynt, byddai'n amhriodol i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a phenderfynu pa system bleidleisio sy'n gweithio orau, a gosod y system honno ledled Cymru heb ystyried safbwyntiau lleol.