Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 16 Chwefror 2022.
Dywedodd John Stuart Mill, yn ôl ym 1861, mai egwyddor gyntaf democratiaeth yw hyn: cynrychiolaeth yn gyfrannol â’r niferoedd. Heddiw, gadewch i ni, yn y Senedd hon, beidio â chaniatáu syniadau hen ffasiwn, peidio â chaniatáu rhagfarnau, peidio â chaniatáu i’r uchelgais am bŵer rwystro’r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol hon. Diolch yn fawr.