Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 16 Chwefror 2022.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon ym mis Mawrth 2020 gan Sara Pedersen, ar ôl casglu 2,080 o lofnodion ar-lein a 3,442 o lofnodion ar bapur, ac rwy'n siŵr bod egin fathemategwyr ar draws y Siambr eisoes wedi cyfrifo'r cyfanswm o 5,522 o lofnodion. Lywydd, mae testun y ddeiseb yn dweud:
'Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y Bont-faen, Bro Morgannwg. Hon oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i gael ei hadeiladu yn benodol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru (a Lloegr), ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w dymchwel. Byddai methu ei gwarchod yn arwain at golli adeilad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol.'
Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r Pwyllgor Deisebau yn ymyrryd mewn materion cynllunio, ond roedd y cwestiwn a ddylai'r adeilad fod wedi'i restru gan Cadw a galwad y deisebydd am adolygiad annibynnol o'r penderfyniad hwnnw yn un y gallem weithredu arno. Yn ystod y pumed Senedd, cytunodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd flaenorol, o dan arweiniad rhagorol fy rhagflaenydd yn y gadair, Janet Finch-Saunders, i ofyn am ddadl, ond gan fod busnes y Senedd wedi'i gyfyngu oherwydd y pandemig, nid oedd yn bosibl cynnal y ddadl honno.
Mae cefnogwyr y ddeiseb yn dadlau bod yr ysgol, a gynlluniwyd gan y pensaer Robert Williams, yn
'[d]ystiolaeth amlwg a deniadol o gyfnod pwysig yn hanes Cymru pan ddarparwyd cyfleoedd cyfartal i ferched difreintiedig yr oes'.
Lywydd, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at Weinidogion diwylliant olynol, sydd wedi amddiffyn penderfyniad Cadw a'u proses. Ysgrifennodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 2020, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:
'Mae fy swyddogion wedi ystyried yr holl ddadleuon a gyflwynwyd ar gyfer rhestru'r adeilad yn ofalus iawn ond mae arnaf ofn nad yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ei restru ar y lefel genedlaethol.'
Yn dilyn ceisiadau pellach gan yr ymgyrchwyr am adolygiad o benderfyniad gwreiddiol Cadw, fe wnaeth y Gweinidog,
'ofyn am gyngor annibynnol gan Richard Hayman, hanesydd adeiladau ac archeolegydd sydd ag arbenigedd penodol mewn adeiladau hanesyddol yng Nghymru'.
Aeth y Gweinidog rhagddo i gefnogi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad. Yn y Senedd hon, ysgrifennodd y pwyllgor newydd at y Gweinidog presennol, Dawn Bowden, a fydd yn ymateb i'r ddadl heddiw, i weld a fyddai'n newid unrhyw beth fel Gweinidog. Atebodd Dawn Bowden, y Gweinidog diwylliant, a dywedodd
'ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth newydd a fyddai'n gwrthdroi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad.'
Gwn am Aelodau o bob rhan o'r Siambr sy'n fwy cyfarwydd â'r adeilad penodol dan sylw heddiw, a'r ardal dan sylw, a byddant am siarad mwy am ei werth pensaernïol a hanesyddol, ac unwaith eto, yr honiadau a wnaed ynglŷn â'i arwyddocâd y tu hwnt i'r ardal leol. Ond Lywydd, os caf, rwyf am ddod at bwynt ehangach yn fy nghyfraniad heddiw: rhaid bod mwy y gallwn ei wneud yn y Senedd hon i gynorthwyo cymunedau i gadw adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr. Nid ysgol y Bont-faen yw'r unig achos. Fel pwyllgor, yn ddiweddar gwelsom ymgyrchwyr yn y gogledd yn deisebu i gadw Coleg Harlech—P-05-1130, 'Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech'—adeilad addysgol arall sy'n galw am ddiben newydd. Gwn fod tîm clercio'r Pwyllgor Deisebau yn gwrthod deisebau eraill yn rheolaidd lle mae pobl leol yn ceisio herio penderfyniadau cynllunio a fydd yn arwain at ddymchwel adeiladau lleol a'r atgofion a'r ystyr sydd ynghlwm wrthynt. Edrychaf o gwmpas y Siambr ac ar y rheini ar-lein ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain adeilad sy'n amlwg yn cyd-fynd â'r patrwm hwn, adeilad nad yw'n gwneud digon o arian neu adeilad sydd wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond adeilad ag iddo le pwysig ynghanol ein trefi a'n pentrefi ac yng nghalonnau'r bobl sy'n byw yno.