Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 16 Chwefror 2022.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol y cyfrannu oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar eu gwasanaethau a'u darparu, sy'n golygu bod yr arian hwn yn pennu'r rhan fwyaf o'r hyn y gall cynghorau ei gyflawni. Fel yr amlinellwyd yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw, ac fel rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau ar feinciau Llafur yma am ei nodi, rwy'n derbyn y bydd y setliad arfaethedig i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn codi 9.4 y cant. Mae hyn i'w groesawu wrth gwrs. Serch hynny, daw ar ôl blynyddoedd maith o danariannu ac nid yw'n mynd i'r afael o hyd â'r ffaith bod y fformiwla ariannu bresennol wedi dyddio ac nad yw'n addas i'r diben.
Gwyddom hefyd fod cyllid refeniw Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol wedi gostwng tua 17 y cant mewn termau real drwy'r degawd diwethaf, ac mae'n amlwg bod y degawd o ddirywiad wedi cael effaith enfawr ar wasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae tanariannu cynghorau'n gyson dros flynyddoedd lawer wedi gadael llawer ohonynt mewn sefyllfa wan i ymdrin â heriau'r presennol a'r dyfodol. Gwelir hyn yn arbennig gyda chynghorau yn y gogledd—y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, sydd â phoblogaeth hŷn ac ardaloedd gwledig—sydd, i bob golwg, ar eu colled o'r fformiwla ariannu.
Dywedais y byddwn yn siarad am rai pethau manwl. Rwyf am dynnu sylw at dri mater sydd, yn fy marn i, yn cyfiawnhau'r alwad am adolygiad. Y cyntaf yw ansawdd y data a ddefnyddir i ddangos faint o arian y dylid ei roi i gefnogi cynghorau. Ceir rhywbeth a elwir yn asesiad gwariant safonol, rhywbeth rwy'n siŵr ein bod i gyd yn mwynhau ei ddarllen o bryd i'w gilydd, ac mae'r data yn yr asesiad gwariant safonol yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer ariannu cynghorau. Ond yn anffodus, mae nifer o'r pwyntiau data yma dros 20 oed, ac rwyf am dynnu sylw at un neu ddau o'r rheini sy'n bwydo i'r drefn hon o ariannu awdurdodau lleol. Mae'r un cyntaf yma yn defnyddio data o 2001, ac mae'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol. Yn gyntaf oll, data 20 oed sy'n edrych ar faint o blant dibynnol sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol—nid oes yr un o'r plant hynny'n blant yn awr. Felly, mae'r fformiwla ariannu honno'n gwbl wallgof. Mae'r nesaf, pensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn cartrefi, unwaith eto'n defnyddio data o 2001. Unwaith eto, mae pensiynwyr sydd â salwch cyfyngus hirdymor yn defnyddio data o 2001. Mewn byd sy'n cael ei yrru gan ddata, gyda chymaint ar gael i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, mae'n gwbl amhriodol defnyddio gwybodaeth sydd dros 20 oed. Ceir manylion eraill yma ers 1991. Nid wyf yn siŵr os oedd pob un o'r Aelodau wedi'u geni pan ddefnyddiwyd rhai o'r pwyntiau data hynny.
Yn ail, nid yw'r fformiwla ariannol bresennol yn adlewyrchu ein poblogaeth sy'n heneiddio yn briodol a'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod ein pobl hŷn yn gallu byw eu bywydau gorau. Enghraifft amlwg o hyn, o edrych ar y fformiwla ariannu, yw ei bod yn rhagdybio bod y gost i gynghorau sy'n cefnogi rhai dros 85 oed oddeutu £1,500 y pen, a allai ymddangos fel swm digonol. Yn y categori oedran nesaf, sef pobl rhwng 60 ac 84 oed, mae'r fformiwla'n rhagdybio y byddai'n costio £10.72 i ariannu a chefnogi'r bobl hynny. Felly, yn sydyn, yn 85 oed, mae'n £1,500 y pen, ond am nifer o flynyddoedd cyn hynny, mae'n costio £10. Mae'n anghysondeb enfawr, ac yn camddeall yr hyn y mae'n ei gymryd i gefnogi ein poblogaeth sy'n heneiddio yn y ffordd orau. Ac wrth gwrs, mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn mynd i ddod yn rhan fwy a mwy sylweddol o'r boblogaeth y bydd angen inni eu cefnogi, a'u cefnogi'n dda, dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn 2038, bydd chwarter ein poblogaeth dros 65 oed ac ar hyn o bryd, mewn ardaloedd fel Conwy, mae 28 y cant o'r trigolion yno dros 65 oed, o'i gymharu â Chaerdydd, sydd â thua 14 y cant. Felly, gallwch weld bod yna feysydd lle nad yw'r fformiwla ariannu yn adlewyrchu'n briodol y cymorth sy'n ofynnol i gefnogi ein pobl hŷn. Mae'r ardaloedd hynny'n mynd i'w chael hi'n anodd gyda'r cyllid a ddaw gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â data, ac mae angen ei adolygu. Yr ail faes yw sut y caiff y cymorth i bobl hŷn ei ariannu'n briodol. A'r trydydd mater a welaf yw meithrin hyder yn y broses o ariannu. Gallwn weld o welliant 4 Llywodraeth Cymru heddiw nad yw'r Llywodraeth am gynnal adolygiad annibynnol allanol o ariannu llywodraeth leol, ac eto yn y ddadl heddiw, rwy'n siŵr y byddwn yn clywed gan lawer ar feinciau'r Llywodraeth pa mor dda yw'r fformiwla ariannu. Ond hoffwn ofyn: os yw mor dda, ac os yw mor gywir, beth sydd o'i le ar gynnal adolygiad annibynnol? Beth am gynnal adolygiad annibynnol i ddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn? Beth sy'n peri pryder i chi ynglŷn â chael adolygiad annibynnol? Os yw mor dda, gadewch inni gynnal yr adolygiad a phrofi'r pwynt yr ydych am ei wneud, ei fod yn hollol iawn.
I gloi, Lywydd dros dro, mae cynghorau'n gwneud gwaith anghredadwy gyda'r cyllid a gânt. Pe bai pob cyngor yn cael arian teg a chywir, gallent ffynnu hyd yn oed yn well nag a wnânt heddiw. Gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a chael adolygiad annibynnol o ariannu cynghorau. Gadewch inni ryddhau'r potensial sydd gan gynghorau i'w gynnig wrth iddynt gefnogi eu cymunedau lleol. Wrth orffen, edrychaf ymlaen at wrando ar bob cyfraniad o bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol heddiw ar y mater pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn.