Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 16 Chwefror 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar etholiadau llywodraeth leol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Rhys ab Owen, Llyr Gruffydd a Jane Dodds. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dwy yn ymatal, 39 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.