Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 1 Mawrth 2022.
Rhun, o ran parhad profi, bydd lot mwy o fanylion ynglŷn â beth yw'n cynlluniau ni ar gyfer profi yn y dyfodol ar ddydd Gwener. Rŷn ni, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw hi i ddiogelu pobl sydd yn fregus a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd eich bod chi wedi cwrdd â'r bobl sydd wedi colli anwyliaid a dwi'n siŵr y clywoch chi'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â'u cyfle nhw i gwrdd â phobl o ran beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r inquiry yna. Diolch yn fawr.