Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 1 Mawrth 2022.
Ocê, diolch yn fawr. Jest i ddweud ein bod ni i gyd yn hapus iawn bod y brechlynnau a'r cynllun brechu wedi bod yn hynod o lwyddiannus yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa nawr lle dŷn ni ddim yn mynd i barhau gyda'r pasys, ond, wrth gwrs, mae cyfle gan bobl, os ydyn nhw'n moyn, i ddefnyddio'r rheini. Ac, wrth gwrs, os ydy hi yn rhywbeth maen nhw'n penderfynu ei gwneud, wrth gwrs, bydd hwnna'n rhywbeth a fydd yn rhaid iddyn nhw ei benderfynu ac, yn amlwg, bydd yna ddim adnoddau yn dod o Lywodraeth Cymru ar gyfer hynny o ganlyniad i hynny.