Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 1 Mawrth 2022.
Un o'r prif bryderon sydd gen i am y cynigion ar ran Llywodraeth y DU yw nad oes map ardaloedd â chymorth o gwbl. Roedd hynny'n ffordd y gallen ni sianelu a chanolbwyntio gwariant ar ardaloedd difreintiedig Cymru a ledled y DU o dan y gyfundrefn flaenorol, ac mae hynny wedi mynd yn llwyr. Ni fydd unrhyw ffordd nawr i fuddsoddiad wahaniaethu rhwng Mayfair a Merthyr, ac mae'n rhaid fod hynny yn gwbl anghywir. Rydym ni wedi clywed yr hyn sydd gan Weinidogion Llywodraeth y DU i'w ddweud o ran y sicrwydd maen nhw wedi'i roi. Cawsom sicrwydd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i Brexit. Cawsom sicrwydd na fyddai Cymru'n colli pwerau o ganlyniad i Brexit. Nid yw'r ddau sicrwydd hynny wedi dwyn ffrwyth, felly ni fyddaf yn cymryd sicrwydd gan Lywodraeth y DU ar y pwynt hwn. Os ydyn nhw am gael y sicrwydd hwnnw, mae angen iddyn nhw eu rhoi ar wyneb y Bil.
Yn gyffredinol, Llywydd, mae'r Bil Rheoli Cymhorthdal yn enghraifft arall eto o ymosodiad Llywodraeth y DU ar ddatganoli. Mae'r diffyg manylion, fel y gwnes i ei ddweud, ar y Bil yn golygu bod gofyn i'r Senedd lofnodi siec wag arall, a allai rwymo ein dwylo wrth ddatblygu cyfreithiau yn y dyfodol mewn meysydd datganoledig. Ac eto, mae'r anghydbwysedd yn y Bil o ran pwerau, ynghyd â'r diffyg pwerau ymgynghori a chydsynio ar gyfer Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu a diweddaru'r gyfundrefn gymorthdaliadau, yn peryglu gwrthdroi'r broses ddatganoli yn llechwraidd drwy'r Bil, gan alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd mewn meysydd cymhwysedd datganoledig.
I gloi, byddaf yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghydweithwyr am ddatblygu'r Bil, ond rwy'n ailadrodd fy nghais bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol.