Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Rydw i’n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hadroddiadau ar y Bil Rheoli Cymhorthdal, ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu sylwadau. Cafodd cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ei gyflwyno ar 6 Ionawr, oedd yn egluro ein safbwynt ar y cymalau a nodwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac ni chodwyd unrhyw gamau pellach.
Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi gwneud rheoli cymhorthdal yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, mae'n effeithio'n sylweddol ar faterion nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl fel datblygu economaidd, amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mae effaith y Bil hwn ar ardaloedd nad ydynt yn cael eu cadw yn ôl yn codi pryderon. Rydyn ni angen fframwaith rheoleiddio manwl sy'n gweithio gyda datganoli, nid yn erbyn datganoli.
Busnesau yw ein partneriaid ni ac maen nhw’n galw'n briodol am eglurder a sicrwydd ynghylch pa gymorth sy'n gydnaws â threfn rheoli cymhorthdal y DU. Mae'r cynigion yn y Bil yn methu'r prawf sylfaenol hwn. Maen nhw i bob pwrpas yn rhoi pwerau eang i'r Ysgrifennydd Gwladol lunio'r drefn yn y dyfodol heb fawr o graffu gan Senedd y DU, a dim o gwbl gan y Senedd hon.
Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei difaterwch i'r goblygiadau i fusnesau, swyddi a'r economi yng Nghymru. Mae dealltwriaeth elfennol o'r setliad datganoli yn ei gwneud yn glir bod hyn yn creu dryswch ac ansicrwydd sy'n peryglu buddsoddiad yn ein heconomi.
Mae'r Bil hwn yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfeirio dyfarniadau cymhorthdal neu gynlluniau a roddir mewn meysydd polisi datganoledig at yr uned cyngor ar gymhorthdal annibynnol yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, ac mae'n ymestyn y gofynion cadw yn ôl sydd ar waith ar ddyfarniadau neu gynlluniau sy’n cael eu cyfeirio. Os bydd yn cael ei ddeddfu, bydd hyn yn tanseilio pŵer Gweinidogion Cymru i weithredu mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.
Ni fydd y pwerau hyn yn ymestyn i Weinidogion Cymru lle mae cymorthdaliadau'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Gallai hyn greu gwrthdaro buddiannau i'r Ysgrifennydd Gwladol os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am atgyfeiriad ar gyfer dyfarniad neu gynllun gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd gan ffanffer mawr ddyddiau'n flaenorol yn unig, er enghraifft. Mae'r Bil hwn yn adlewyrchu buddiannau gwleidyddol cul Llywodraeth y DU yn unig yn hytrach nag anghenion ehangach y DU.
Er gwaethaf ceisiadau mynych i Weinidogion y DU wneud newidiadau, nid oes unrhyw beth sylweddol wedi'i wneud, ac rwy'n pryderu'n fawr y gallai'r Bil fod â goblygiadau ymarferol a chyfansoddiadol pellgyrhaeddol i Gymru. Mae'r Bil hwn yn tanseilio statws deddfwriaeth sylfaenol ddatganoledig a bydd yn ei gwneud yn anos cefnogi rhanbarthau difreintiedig. Mae'n gwneud buddsoddi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn llai deniadol drwy fethu â darparu map cymorth rhanbarthol y DU gyfan. Mae hyn yn gwrth-ddweud codi'r gwastad yn uniongyrchol drwy ddileu'r mecanwaith a gynlluniwyd i atal y Llywodraeth rhag buddsoddi'n fwy ym Mayfair na Merthyr.
Felly, rwy’n cynnig bod y Senedd yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rheoli Cymhorthdal.