Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 1 Mawrth 2022.
Yr eitemau nesaf, felly, yw eitem 11 ac eitem 12, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, ac oni bai fod yna Aelod yn gwrthwynebu hyn caiff y ddau gynnig o dan eitemau 11 a 12, cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, eu grwpio i'w trafod ond fe fydd yna bleidleisiau ar wahân i eitemau 11 a 12. Dwi ddim yn gweld bod gwrthwynebiad i'r grwpio hynny.