Part of the debate – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 1 Mawrth 2022.
Llywydd, a gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o weld yr hyn yr oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ei wneud yn gynharach yr wythnos hon, heb sicrwydd gan FIFA wrth wneud hynny? Gweithred ddewr gan ffederasiwn bach, ond un a oedd yn cyd-fynd yn llwyr, yn fy marn i, â'r teimladau—[Cymeradwyaeth.]—yn cyd-fynd yn llwyr â'r teimladau a fynegwyd gan Mike yn y fan yna. Rwy'n ei longyfarch ef a Rebecca Evans am fod yn rhan o'r digwyddiad hwnnw yn Abertawe. Roedd yn fraint cael bod yma ar risiau'r Senedd neithiwr gyda chyd-Aelodau eraill mewn gwylnos arall i nodi ein hymateb i'r digwyddiadau yn Wcráin.
Nid yw'r camau gweithredu wedi eu disbyddu eto, fel yr awgrymodd Mike Hedges. Mae camau pellach y gellir ac y dylid eu cymryd i'w gadarnhau ym meddyliau'r bobl hynny sy'n gyfrifol am y penderfyniadau hyn yn Rwsia. Mae'n bwysig iawn, Llywydd, onid yw, ein bod ni'n parhau i wahaniaethu rhwng gweithredoedd yr Arlywydd Putin a'r rhai sydd o'i amgylchynu a buddiannau pobl gyffredin sy'n byw yn Rwsia. Ond, mae'n rhaid i ni fod yn barod o hyd i gymryd camau i gadarnhau yn eu meddyliau bod canlyniadau yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae canlyniadau ym maes chwaraeon yn aml yn gwneud eu ffordd i ymwybyddiaeth pobl lle nad yw'n ymddangos bod sancsiynau eraill yn cael effaith mor uniongyrchol. Felly, rwy'n cysylltu fy hun â'r hyn y mae Mike Hedges wedi ei ddweud yn ei gyfraniad y prynhawn yma.