1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2022.
1. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57728
Mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn fenter fawr, barhaus, sy'n mynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu y mae pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru yn eu hwynebu. Ar 23 Chwefror, fe wnaethom gyhoeddi cyllid i gynnal y rhaglen dros y tair blynedd nesaf.
Diolch. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweithio gyda sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyd-lunio ein prosiect llwybr iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ar y gweill—un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau sydd â'r nod o wella hygyrchedd a gwella cydweithio rhwng grwpiau cymorth ar draws fy etholaeth i. Hoffwn i ddiolch i chi, Prif Weinidog, oherwydd fy mod i wrth fy modd o glywed hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y rhaglen Amser i Newid. Felly, o Lads and Dads i Mental Health Matters, Men's Sheds a Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n ymwneud â'r bobl hynny ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth, sy'n gwella ac yn achub bywydau. Mae'r rhaglen Amser i Newid yn enghraifft o sut y mae'r Llywodraeth hon yn blaenoriaethu iechyd meddwl, ond hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd cydnabod bod cyflyrau iechyd meddwl yn amrywio yn ehangach na'r hyn a gyflwynir yn aml. O iselder ôl-enedigol i anhwylder gorfodaeth obsesiynol, anhwylderau bwyta, sgitsoffrenia ac anhwylder personoliaeth ffiniol, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio i dynnu'r stigma oddi wrth bob agwedd ar iechyd meddwl a'i fod yn cael ei ategu gan y cyllid i wella bywydau'r rhai sy'n dioddef o gyflyrau penodol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r holl gyflyrau iechyd meddwl gael eu cydnabod a'u cynrychioli, ac y bydd mwy yn cael ei wneud i roi diagnosis, i drin ac i wella bywydau'r rhai sy'n dioddef o bob cyflwr iechyd meddwl ledled Cymru?
Wel, Llywydd, diolch i Sarah Murphy am hynna, ac rwy'n llongyfarch pob un o'i hetholwyr sy'n rhan o'r fenter honno ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd y trydydd sector a gweithgarwch gwirfoddol ym maes iechyd meddwl, wedi'i gefnogi, wrth gwrs, gan fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Rhan iechyd meddwl y gyllideb iechyd yw'r maes gwariant uchaf o hyd yn GIG Cymru—£760 miliwn eleni—ac mae buddsoddiad ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, i'w gadarnhau pan fydd fy nghyd-Weinidog yn ei gadarnhau yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y gyllideb derfynol, y gyllideb ddrafft sy'n dangos buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn mewn iechyd meddwl y flwyddyn nesaf, gan godi i £90 miliwn yn nhrydedd flwyddyn y gyllideb. Mae hynny yn caniatáu i ni wneud yr hyn a ddywedodd Sarah Murphy, Llywydd, sef buddsoddi yn yr amrywiaeth ehangach honno o wasanaethau iechyd meddwl.
Pe gallwn i gyfeirio, efallai, at y pwynt cyntaf oll y soniodd amdano, sef yr anawsterau iechyd meddwl a wynebir, weithiau, gan fenywod ar ôl rhoi genedigaeth. Ers 2015, rydym ni wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru, fel bod y gwasanaethau arbenigol hynny ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru erbyn hyn, ac mae £3 miliwn yn mynd at eu darparu. Ac ym mis Ebrill y llynedd, ar y ffin ag etholaeth yr Aelod ei hun, fe wnaethom ni lwyddo i agor uned mam a baban yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol sylweddol i bobl sydd â'r anawsterau mwyaf arwyddocaol o'r math hwnnw.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Sarah Murphy am gyflwyno'r cwestiwn hwn a chysylltu fy hun â nifer o'r sefydliadau yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw, Sarah? Rwy'n ymwybodol o nifer ohonyn nhw. Ac a gaf i ychwanegu Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr at y rhestr honno hefyd, yr wyf i'n gwybod sy'n gwneud gwaith rhagorol ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd?
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, ac rwy'n croesawu rhai o ddatganiadau'r Prif Weinidog yn y fan yna ynghylch rhoi terfyn ar y stigma pan fydd gan bobl broblem iechyd meddwl, ac mae hynny'n amlwg yn hollbwysig, ac yn un o'r ffyrdd yr wyf i'n credu y gallai pobl deimlo yn fwy cyfforddus i ddod ymlaen a gofyn am gymorth yw gwybod bod cefnogaeth yno pan fydd ei angen, ac mae hynny yn arbennig o wir i'n pobl ifanc. Yn anffodus, ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n siomedig gweld bod yn rhaid i 63 y cant o atgyfeiriadau i'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed yn y bwrdd iechyd aros dros bedair wythnos dim ond am apwyntiad cyntaf. Wrth i ni ddechrau, gobeithio, roi effeithiau gwaethaf y pandemig y tu ôl i ni, mae'n bwysig cofio mai ein pobl ifanc, byddwn i'n dadlau, sydd efallai wedi dioddef fwyaf ac wedi gwneud yr aberth mwyaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, mae'n hanfodol, pan fydd pobl ifanc yn cydnabod bod ganddyn nhw broblem, fod cymorth brys ar gael iddyn nhw yn eu cyfnod o angen. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau rhestrau aros CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rwy'n cytuno ag ef am bwysigrwydd y gwaith y mae'r Samariaid yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru—y Samariaid yn ein prifddinas, wedi eu lleoli yn fy etholaeth i—ac am wasanaeth rhyfeddol sy'n cael ei gynnal bron yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy'n cael ei ddarparu i bobl, weithiau yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd bod pobl yn teimlo bod cefnogaeth iddyn nhw os oes yn rhaid iddyn nhw ddatgan her iechyd meddwl, a dyna pam mae'n dda adrodd bod un o bob pedwar o bobl yn holl weithlu Cymru bellach yn cael eu cyflogi gan gyflogwr Amser i Newid. Felly, mae hynny'n golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo ei hun i'r camau y gall eu cymryd i wneud yn siŵr, os bydd pobl yn wynebu anhawster o'r math hwnnw, nad yw stigma yn eu hatal rhag dod ymlaen i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
O ran pobl ifanc, er i'r lleiafrif bach hwnnw o bobl ifanc sy'n dioddef o her iechyd meddwl mor sylweddol bod angen gwasanaeth haen 4 neu haen 3 arnyn nhw o'r math y mae CAMHS yn ei ddarparu, i'r rhan fwyaf o bobl ifanc y mae angen cymorth arnyn nhw wrth dyfu i fyny drwy'r glasoed, y gwasanaethau eraill hynny—y gwasanaethau mynediad uniongyrchol hynny, a ddarperir gan sefydliadau trydydd sector, a ddarperir gan wasanaethau cwnsela mewn ysgolion, a ddarperir weithiau gan wasanaethau ar-lein y gall pobl ifanc eu defnyddio eu hunain—sydd â'r posibilrwydd mwyaf o ymyrryd yn gynnar mewn problem y gallai rhywun fod yn ei chael, nad oes iddyn nhw stigma gwasanaethau iechyd meddwl ffurfiol yn gysylltiedig â nhw, a dyna le, yn ogystal â chryfhau'r gwasanaethau arbenigol iawn hynny, y mae'r buddsoddiad mwy gan Lywodraeth Cymru wedi ei ganolbwyntio yn ystod cyfnod yr argyfwng coronafeirws.
Diolch i Sarah Murphy am gyflwyno'r cwestiwn.
Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun â rhai o'r geiriau a ddywedodd Sarah am sut y gall iechyd meddwl ddangos ei hun mewn sawl ffordd wahanol. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd cyn y toriad gen i a Huw Irranca-Davies ar gyfer Siediau Dynion Cymru, yn tynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae siediau dynion yn ei wneud ledled Cymru ym mhob un o'n cymunedau. Rwy'n gwybod ei fod yn destun balchder i lawer yn fy nghymuned i mai Nyth y Wiwer yn Nhon-du oedd un o'r siediau dynion cyntaf yng Nghymru. Sylweddolais i a Huw yn gyflym iawn o'n sgyrsiau fod anhawster ariannol o flaen siediau dynion bellach, yn enwedig wrth ystyried nifer yr atgyfeiriadau sy'n cynyddu, nid yn unig gan unigolion sy'n cysylltu ar eu liwt eu hunain, ond hefyd yn cael eu hannog i gysylltu gan feddygon teulu. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cael sefydliadau fel siediau dynion yn ein cymuned, ac rydym ni wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i fynegi ein pryderon cyffredin. Ond byddai gen i ddiddordeb clywed gan y Prif Weinidog pa sicrwydd y gall ei roi i sefydliadau fel Siediau Dynion Cymru o ran cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, a sut y gallen nhw gael gafael ar yr arian ychwanegol y mae'n sôn amdano.
Llywydd, mae'r mudiad siediau dynion yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan dyfu weithiau o unigolion lleol a brwdfrydig iawn i'r hyn sydd bellach yn fudiad sydd i'w gael mewn cynifer o rannau o Gymru, ac mae'n fudiad pwysig iawn. Rydym yn gwybod bod dynion yn arbennig o agored i hunanladdiad ar wahanol adegau yn eu bywydau, ac mae siediau dynion yn cynnig cyfle i bobl ddod at ei gilydd a chael y cymorth cydfuddiannol hwnnw sy'n cael effaith ataliol.
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi ysgrifennu at fy nghyd-Weinidog Lynne Neagle. Bydd yn ymwybodol o fudiad y siediau dynion, wrth gwrs, ei hun, a lle gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth, fel rheol drwy grantiau yr ydym yn eu darparu i sefydliadau eraill sydd wedyn yn gwneud y penderfyniadau dyrannu hynny, rwy'n gwybod y bydd yn awyddus iawn i wneud hynny.