Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:13, 1 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. 0.6 y cant y flwyddyn oedd rhagfynegiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer twf poblogaeth Caerdydd, fodd bynnag, mae'r tri opsiwn a roddwyd gan Gyngor Caerdydd yn y cynllun datblygu lleol newydd yn llawer uwch na hynny. Yr opsiwn cyntaf yw 19,000 o gartrefi ychwanegol ar 0.8 y cant y flwyddyn, 24,000 gyda thwf rhagamcanol o 1 y cant yw'r ail, a 30,500 gydag 1.3 y cant o dwf y flwyddyn yw'r trydydd—mwy na dwywaith amcanestyniad Llywodraeth Cymru a bron i 20 y cant o'r cartrefi presennol yng Nghaerdydd. Hefyd, y bwriad yw adeiladu ar safleoedd tir glas pellach yng Nghaerdydd.

Rwy'n gwybod ei bod yn rhan sylfaenol o'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru i ddiogelu mannau gwyrdd, i ddiogelu bioamrywiaeth, ac i blannu mwy o goed. A yw'r Prif Weinidog yn gwybod pam mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio rhagfynegiadau uwch na Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff annog y cyngor i ddiwygio ei ragfynegiadau i'n galluogi ni i ddiogelu mwy o'n hamgylchedd a bioamrywiaeth? Diolch yn fawr.