Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 1 Mawrth 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru ledled y byd. Heddiw yn unig, cynhelir digwyddiadau yn Tokyo, Dulyn, Llundain, Washington, Brwsel, Dubai, Beijing a Bangalore.