2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:00, 1 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Byddwn i'n credu y byddai'n well pe bai'r Aelod yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog. Rydych chi'n codi pwynt penodol iawn nad oes gennyf i wybodaeth wrth law amdano, ac, yn amlwg, fel aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n credu mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen.