5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:05, 1 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Fe ddaeth cau ysgolion a lleoliadau cymunedol yn ystod penllanw pandemig COVID-19 â heriau yn ei sgil o ran sicrhau bod cynhyrchion mislif yn cyrraedd y rhai mewn angen ac, yn ôl ymchwil gan Plan International, roedd dros 1 miliwn o ferched yn y DU yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael gafael ar gynhyrchion mislif yn ystod y pandemig. Yng Nghymru, fe fuom ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gan unigolion, hyd yn oed yn y cyfnod clo, y cynhyrchion yr oedd eu hangen arnyn nhw. Fe ddaeth awdurdodau lleol Cymru o hyd i ffyrdd arloesol a chreadigol o wasanaethu eu cymunedau nhw, gan gynnwys anfon cynhyrchion yn syth i gartrefi pobl, i sefydlu gwasanaethau tanysgrifio a chynnig talebau, ac fe hoffwn i gydnabod yr ymateb cadarnhaol gan ein holl bartneriaid ni yn yr awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn.

Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud eto i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael i bawb sydd eu hangen nhw, ac rydym ni wedi ymrwymo i nodi ac ymateb i anghenion ein cymunedau ni. Fore heddiw, fe ddaethom ni ag awdurdodau lleol at ei gilydd i rannu arfer gorau ac ystyried sut rydym ni am sicrhau bod cynhyrchion ar gael mewn cymunedau heb wasanaeth digonol. Ond dim ond dechrau'r gwaith yw darparu cynhyrchion. Mae mynd i'r afael â thlodi mislif yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond, os ydym ni wir am ddryllio'r cywilydd a'r gwaradwydd sy'n gysylltiedig â mislif, yna fe fydd rhaid i ni godi ein huchelgeisiau ni a gweithio i sicrhau urddas i bawb yn ystod mislif.

Felly, beth gredwn ni yw ystyr urddas yn ystod mislif? Ystyr hynny yw blaenoriaethu cael gwared ar dlodi mislif a mynd i'r afael â'r ystod o faterion sy'n effeithio ar brofiad unigolyn o fislif yn ystod ei oes. Mae urddas yn ystod mislif yn rhoi ystyriaeth i'r cysylltiad rhwng mislif a materion iechyd ehangach, sy'n arbennig o bwysig gan ein bod ni heddiw yn nodi dechrau Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis yn genedlaethol. Mae urddas yn ystod mislif yn cymryd effaith amgylcheddol llawer o gynhyrchion plastig untro i ystyriaeth, ac effeithiau rheoli mislif yn y gweithle, mewn addysg, ac ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol.

I gyflawni'r diffiniad hwn o urddas yn ystod mislif, mae angen i ni gymryd camau ar draws y Llywodraeth, a dyna pam rydym ni am gyhoeddi ein cynllun gweithredu strategol urddas yn ystod mislif yn ddiweddarach eleni, ac mae'r cynllun yn ystyried urddas yn ystod mislif i rai sydd â nodweddion gwarchodedig croestoriadol ac yn ceisio gwneud darpariaeth ar gyfer heriau ychwanegol neu ofynion diwylliannol. Mae urddas yn ystod mislif a thlodi mislif yn faterion o ran hawliau plant, ond mae'r cynllun yn cymryd ymagwedd gydol oes at gyflawni urddas yn ystod mislif drwy roi ystyriaeth i gefnogaeth i rai sy'n mynd drwy'r perimenopos a'r menopos hefyd.

Rydym wedi nodi nifer o gamau uchelgeisiol i helpu i gyflawni ein gweledigaeth, gan gynnwys ymgyrch i ddechrau sgwrs genedlaethol am fislif i ddryllio mythau a mynd i'r afael â gwaradwydd; ymrwymiad i 90 y cant hyd 100 y cant o'r holl gynhyrchion a brynir dan grant urddas yn ystod mislif i fod yn ddi-blastig, yn cynnwys llai o blastig neu blastig y gellir eu hailddefnyddio erbyn 2026; a sicrhau bod adnoddau addysgol ac ymarferol ar gyfer urddas yn ystod mislif ar gael i fusnesau ledled Cymru i wneud urddas yn ystod mislif yn fwy eang yn y sector preifat; a hyrwyddo polisïau yn y gweithle ynglŷn ag urddas yn ystod mislif a'r menopos; ac ariannu rhaglenni addysg a hyfforddiant i hyrwyddo'r defnydd o gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio; a datblygu map cynnyrch misglwyf rhyngweithiol i helpu unigolion i ddod o hyd i gynhyrchion am ddim yn eu hardaloedd. Yn olaf, mae addysg, wrth gwrs, yn hanfodol hefyd i gyflawni ein nod ni o ran urddas yn ystod mislif. Rwy'n falch iawn fod y cod addysg perthnasoedd a rhywioldeb a'r canllawiau statudol yn cynnwys addysgu llesiant mislif ar amseroedd priodol o ran datblygiad. Fe fydd hynny'n rhoi'r wybodaeth a'r hyder i ddysgwyr geisio cymorth ac ymdrin â'r newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd drwy gydol eu bywydau.

Fe hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Plant yng Nghymru, Women Connect First, Fair Treatment for the Women of Wales ac aelodau ein bord gron urddas yn ystod mislif am eu heiriolaeth barhaus a'u cefnogaeth wrth i ni wireddu ein gweledigaeth gyffredin. Ac rwy'n hyderus, drwy weithio mewn partneriaeth, y byddwn ni'n cyflawni ein gweledigaeth ni i fyw yn y Gymru lle nad oes gan neb gywilydd neu warth o ran mislif ac y gellir siarad yn agored ac yn hyderus amdano, os ydyn nhw'n cael mislif neu beidio. Diolch.