7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 — Y camau nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 1 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:42, 1 Mawrth 2022

Diolch, Lywydd. Heddiw, dwi’n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf.

Cyn cychwyn heddiw, os caf i, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg. Roedd Aled yn achub ar bob cyfle i ysbrydoli a chefnogi’r rheini oedd angen cymorth a chyngor. Yn gymeriad hynaws, caredig a gonest, mae colli Aled yn ergyd aruthrol i bawb oedd yn ei adnabod, ac i Gymru.

Roedd hi’n flwyddyn heriol i bawb, gyda COVID-19 yn bresennol drwy gydol y flwyddyn adrodd, a phob un ohonon ni, wrth gwrs, yn gorfod dysgu i addasu ein ffordd o fyw—gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau. Oherwydd hyn, bu peth newid i’n trefniadau arferol o gasglu a chyhoeddi data, a dyna pam fod oedi wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn eleni.

Daeth heriau i faes y Gymraeg, fel i holl feysydd gwaith y Llywodraeth, yn ystod y flwyddyn, ond daeth hefyd amrywiol gyfleoedd i arbrofi ac arloesi. Rhaid diolch i’n holl bartneriaid ar hyd a lled y wlad am eu parodrwydd i addasu a’u brwdfrydedd i fentro i feysydd newydd. Cynhaliwyd Eisteddfod T ac Eisteddfod AmGen am y tro cyntaf, cyhoeddwyd ein polisi 'Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd', cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein polisi seilwaith ieithyddol, a chafodd ymgynghoriad ar gategorïau newydd i ddisgrifio ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg ei gynnal hefyd.

Oedd, roedd hon yn flwyddyn anodd ar brydiau ond roedd hi’n flwyddyn gynhyrchiol hefyd. Gallwch chi weld y manylion yn llawn yn yr adroddiad ei hun. Er mai cyfle i edrych yn ôl yw adroddiad blynyddol, dwi am edrych ymlaen hefyd heddiw, yn debyg iawn i’r hyn wnes i yn ystod fy araith ddiweddar ar Ynys Môn pan ges i gyfle i rannu fy ngweledigaeth am ein hiaith, wrth nodi 60 mlynedd ers traddodi 'Tynged yr Iaith'. Roeddwn i’n falch o gychwyn heddiw drwy gyhoeddi pa brosiectau sydd am gael cyfran o'r £30 miliwn o arian cyfalaf i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, braf oedd cyhoeddi ein bod yn rhoi £1.2 miliwn yn ychwanegol i'r Urdd, er mwyn i'r sefydliad barhau i adeiladu ar ôl COVID a sicrhau parhad i'w gwasanaethau cymunedol a phrentisiaethau.

Dyma'r tro cyntaf inni ddod ynghyd i drafod y Gymraeg ers cyhoeddi'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Rwy'n falch o ddweud fy mod i eisoes wedi dechrau ar y gwaith gyda Cefin Campbell, ac yn ffyddiog y bydd ein gwaith ar y cyd yn gynhyrchiol. Ein nod, wrth gwrs, yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050. Ac mae'r nod yma'n parhau'n gyson ymhob rhan o'n gwaith wrth inni ddefnyddio ymyraethau amrywiol i'w gyrraedd. Dyw pob ymyrraeth ddim am weithio ymhob rhan o Gymru, a rhaid i bob ymyrraeth fod yn addas at yr amgylchiadau. Felly, wrth inni symud ymlaen ar ein taith i filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n bwysig ein bod ni'n clywed, yn gwrando ac yn dysgu o brofiad y rheini sy'n byw yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, y rheini sy'n cychwyn ar eu taith ieithyddol, neu sydd heb gael y Gymraeg yn rhan o'u bywyd bob dydd ers sbel.

Ac wrth imi sôn am wrando ar bobl, mae'r ymgynghoriad ar-lein ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg newydd ddod i ben. Diolch i bawb a gymerodd o'u hamser i ymateb. Rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Dr Simon Brooks a'r comisiwn newydd rŷn ni'n ei sefydlu i fwrw golwg ar sut fyddwn ni'n gweithredu'r argymhellion a ddaw yn ei sgil.

Rydw i wedi sôn tipyn am gymunedau dros yr wythnosau diwethaf am y syniad o gydweithio â chymunedau lleol i'w helpu nhw i greu mudiadau cydweithredol—mudiadau sy'n gweithio yn y gymuned, er lles y gymuned ac yn rhoi nôl i'r gymuned, grymuso cymunedau, creu cyfleoedd lleol i bobl leol i lwyddo'n lleol, a chael ein harwain gan realiti'r sefyllfa ieithyddol mewn gwahanol rannau o Gymru. 

Dwi am i bopeth dwi'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg fod yn seiliedig ar gynnal neu gynyddu'r defnydd o'n hiaith ni. Fe gofiwch chi fod cynyddu defnydd yn rhedeg drwy ein holl gynlluniau ar gyfer tymor y Senedd hon. 'Defnydd, nid jest darpariaeth', dyna a ddywedais i yn fy araith ychydig wythnosau nôl, a dyna dwi'n ei ddweud eto heddiw. Fe welsoch chi'r datganiad diweddar ar y cyd â Phlaid Cymru yn sôn am sut y byddwn ni'n cydweithio â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i'r gweithlu addysg, boed yn athrawon neu'n gynorthwywyr, o fis Medi ymlaen, felly hefyd i bobl ifanc o dan 25 oed—creu ail gyfle i lawer o bobl gael parhau ar eu taith ieithyddol gyda'r Gymraeg. Ac rwy'n edrych ymlaen at sgwrsio gyda rhai o'r bobl ifanc yma wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu neu ailgydio yn ein hiaith.

Mae canlyniadau'r cyfrifiad ar eu ffordd dros y misoedd nesaf—a na, dwi ddim yn gwybod beth yw'r ffigurau; dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu cyn eu cyhoeddi. Ond erbyn yr haf, fe fyddwn ni'n gwybod faint o bobl Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg—yn gallu siarad ein hiaith, nid yn defnyddio ein hiaith, a dyna ni nôl eto at y defnydd yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn mesur defnydd, ond mae'r ffigurau'n bwysig hefyd, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n darparu data defnyddiol am ein hiaith ymhob rhan o Gymru, ac mae'n amlwg bod cysylltiad rhwng y niferoedd sy'n gallu siarad yr iaith a'i defnydd.

Rhywbeth arall fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud dros y misoedd diwethaf yw bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac fe fyddaf i'n parhau i'w ddweud e. Mae'n neges bwysig, ac yn un rwy'n credu'n gryf ynddi hi. Mae'n rhan o beth sy'n ein gwneud ni'n ni, ac mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i ddod at ein gilydd yn y Senedd hon ac ar hyd a lled y wlad i sicrhau ei dyfodol. Ac mae angen hefyd inni gofio fod gan bawb ei ran, mae gan bawb ei lais; mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.