1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ57715
Diolch. Bydd ein rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol ar draws yr ardal. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a fydd yn datblygu llif o gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys Alun a Glannau Dyfrdwy.
Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, rydym yn aros am ganlyniad yr adolygiad ffyrdd y sonioch chi amdano yn y cwestiwn blaenorol a’r penderfyniad ar y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, wrth gwrs, bwriad y llwybr coch oedd lleihau llygredd aer gan gydnabod bod angen atebion ar drigolion i'r broblem beryglus hon. Pe na bai’r llwybr coch yn mynd rhagddo, er enghraifft, byddwn i a thrigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn disgwyl y dylid gwario’r arian a ddyrannwyd iddo ar fynd i’r afael â llygredd aer yng Nglannau Dyfrdwy, fel a ddigwyddodd, rwy'n credu, pan wnaed y penderfyniad yn erbyn ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd. A gaf fi ofyn i chi, felly, Ddirprwy Weinidog, pa ystyriaeth a roddwyd gennych i glustnodi’r arian hwn ar gyfer yr ardal lle cafodd ei ddyrannu’n wreiddiol, i’w wario ar brosiectau newydd a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon sy’n benodol iawn i Lannau Dyfrdwy?
Diolch. Fel y dywedwch, mae’r adolygiad ffyrdd yn ystyried y llwybr coch, ynghyd â 54 o gynlluniau eraill, ac mae’n gwneud hynny mewn dull trefnus, a bydd yn adrodd yn yr haf. Felly, ni ddylem geisio dyfalu beth fydd canlyniad y broses honno, gan fy mod yn cymryd y bydd rhai cynlluniau ffyrdd yn mynd rhagddynt, ond rwyf hefyd yn cymryd na fydd nifer fawr ohonynt yn gwneud hynny. Felly, mae'n gwbl resymol meddwl am beth fyddai'n digwydd yn y sefyllfa honno. Credaf fy mod am ei atgoffa, o ran ariannu, yr amcangyfrifir y bydd hwn yn gynllun £300 miliwn; nid oes gennym £300 miliwn yn ein cyllideb yn aros i gael ei wario ar y cynllun hwn. Yn wir, holl ddiben adolygiad Burns i’r M4 oedd dod o hyd i ateb a oedd yn costio hanner cymaint â'r M4 arfaethedig ac a oedd yn dal i fynd i’r afael â'r broblem tagfeydd. Felly, yr hyn rwy'n ei obeithio, drwy'r adolygiad ffyrdd a chomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, yw y byddwn yn nodi atebion trafnidiaeth i broblemau sy'n gydnaws â'n hymrwymiadau newid hinsawdd, yn ogystal â mynd i'r afael â phroblemau trafnidiaeth lleol, ond mae angen inni wneud hynny mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael i ni, gan gofio fy mod newydd fod yn sôn wrth y Siambr am y sefyllfa ddifrifol rydym ynddi gyda newid hinsawdd.
Nawr, mae buddsoddiad sylweddol yn mynd i ogledd Cymru, i wella trafnidiaeth gyhoeddus. O fis Mai, bydd nifer y gwasanaethau ar lein y gororau, rhwng Wrecsam a Bidston, yn cynyddu i ddau bob awr. Bydd gennym wasanaeth bob awr newydd rhwng Lerpwl a Llandudno o fis Rhagfyr 2023, ac o fis Rhagfyr 2024, gwasanaeth newydd bob dwy awr rhwng Lerpwl a Chaerdydd, a gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig a Lerpwl. Felly, ar ôl i bobl y gogledd fod aros yn hir ac amyneddgar, credaf fod y buddsoddiad rydym yn ei wneud yn y seilwaith bellach yn dwyn ffrwyth. Y dasg allweddol i gomisiwn Burns yw gosod hynny at ei gilydd, gan ein bod am i bobl deimlo mai’r ffordd hawsaf o fynd o le i le yw drwy drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau. Nid dyna’r realiti i’r rhan fwyaf o bobl ar hyn o bryd, a’r cwestiwn i ni yw: sut y mae newid hynny?
Roedd y prosbectws a gyhoeddwyd yn 2016 gan bartneriaeth Growth Track 360—cynghrair drawsffiniol o arweinwyr busnes, gwleidyddol a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy—yn nodi y byddai gallu cysylltu â HS2 yn lleihau tagfeydd, yn gwella logisteg busnes ac yn denu buddsoddiad a swyddi. Ac ym mis Ionawr, croesawodd partneriaeth Growth Track 360 Fil Rheilffyrdd Cyflym (Crewe-Manceinion) y DU, a fydd yn hwyluso’r gwaith o adeiladu HS2, lle mae cynlluniau a gadarnhawyd yn cynnwys y gyffordd newydd yr oeddent wedi galw amdani i’r gogledd o orsaf Crewe. Mewn gwirionedd, dywedodd eu his-gadeirydd, arweinydd Cyngor Sir y Fflint,
'Byddai ein cyrchfannau diwydiannol, masnachol a thwristiaeth yn cael hwb aruthrol yn sgil gwella cysylltedd rheilffordd uniongyrchol â Llundain, Manceinion a Maes Awyr Manceinion fel y byddai HS2 yn ei gynnig pe bai ein rheilffyrdd lleol yn cael eu huwchraddio ar yr un pryd.'
Ond pan gododd cadeirydd y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer Glannau Mersi Dyfrdwy gogledd Cymru fater tebyg yn Nhŷ’r Cyffredin—Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Dr James Davies—cafodd ymateb eithaf calonogol gan Weinidog perthnasol y DU, a ddywedodd y byddent yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’r adolygiad o gysylltedd yr undeb, a oedd yn cynnwys cysylltiadau rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Felly, pa ymgysylltiad sydd rhyngoch a'r holl asiantaethau amrywiol hyn, i fanteisio ar y cyfleoedd y mae pob un ohonynt yn ceisio'u sicrhau, a'r croeso cyffredinol y mae pob un ohonynt wedi'i roi i gyhoeddiad mis Ionawr?
Wel, roeddwn yn falch fod Growth Track 360 wedi rhoi croeso cynnes i gyhoeddiad comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, ac mae hwnnw'n ymateb i argymhelliad yr adolygiad ffyrdd ac i'r adolygiad o gysylltedd yr undeb gan Syr Peter Hendy, a oedd yn galw am astudiaeth aml-ddull ar draws gogledd Cymru. Yn amlwg, bydd rhan o'r gwaith hwnnw'n ymwneud ag edrych ar sut y gall gwasanaethau rheilffordd yn y gogledd gysylltu â HS2, os a phan fydd yn cyrraedd, er y credaf y dylai pob un ohonom fod yn bryderus ynglŷn â'r diffyg buddsoddiad yng Nghymru gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â rheilffyrdd, a'r diffyg cyllid canlyniadol Barnett yn sgil arian HS2. Sylwaf ei fod yn optimistaidd wrth dynnu sylw at fanteision i’r gogledd o ganlyniad i rywfaint o gysylltedd â rheilffordd yn Lloegr, ond nid oes unrhyw fudd uniongyrchol i deithwyr yng Nghymru, nac i'r seilwaith yng Nghymru, a dylai hynny beri pryder i bob un ohonom, o bob plaid.