Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Mawrth 2022.
Diolch i'r Aelod dros Arfon am godi'r cwestiwn pwysig hwn, oherwydd fel hithau, mae trigolion wedi bod mewn cysylltiad yn rhannu eu straeon trychinebus am y cynllun yn eu heiddo. Weinidog, fe wnaethoch dynnu sylw at rywfaint o'r arian sydd ar gael i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, a byddwn yn gobeithio y byddai Cyngor Gwynedd am weithio gyda chi ac eraill i gefnogi'r trigolion hynny. Mae'r cwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â chynlluniau yn y dyfodol. Fe sonioch chi'n briodol ar y dechrau, rwy'n credu, am y gwersi a ddysgwyd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol. Tybed a ydych chi'n credu bod mwy o rôl i gynghorau ei chwarae yn nodi'r eiddo hyn ac yn cefnogi perchnogion cartrefi ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.